Jac Morgan yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer gemau'r haf
Bydd Jac Morgan yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer gemau'r haf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ac yn erbyn y Barbariaid.
Mae'n un o dri chwaraewr a fydd yn dychwelyd i'r garfan ar ôl colli Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni oherwydd anafiadau.
Bydd Max Llewellyn a Teddy Williams hefyd yn rhan o'r garfan sydd yn cynnwys 48 o chwaraewyr.
Mae chwe chwaraewr sydd eto i ennill cap wedi’u dewis ymhlith y 27 o flaenwr a’r 21 o olwyr sydd wedi eu cynnwys yn y garfan.
Mae rhain yn cynnwys prop pen rhydd Caerdydd, Rhys Barratt; blaen-asgellwr Caerwysg, Kane James; dau reng ôl y Dreigiau, Harrison Keddie a Ryan Woodman; prop pen tynn y Gweilch, Ben Warren; a chanolwr yr Harlequins, Bryn Bradley.
Ni fydd Tomas Francis yn rhan o'r garfan wedi i Tandy benderfynu "rhoi seibiant" iddo, ac nid yw Archie Griffin wedi ei ddewis gan y bydd yn cael llawdriniaeth ar ddiwedd y tymor.
Bydd carfan Cymru’n dod at ei gilydd yn raddol, gan ddibynnu ar pryd y daw tymor eu clybiau i ben. Mae disgwyl i’r grŵp cyntaf o chwaraewyr gyrraedd yr ymarferion cenedlaethol ddydd Llun 1 Mehefin.
Fe fydd Cymru yn herio'r Barbariaid ar 27 Mehefin, cyn chwarae'r gyntaf o'u gemau Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn erbyn Fiji mewn gêm oddi cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 4 Gorffennaf.
Yna bydd y garfan yn teithio i Dde America i herio'r Ariannin yn San Juan ar 11 Gorffennaf cyn symud ymlaen i Dde Affrica i wynebu’r Springboks yn Durban ar 18 Gorffennaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2053830189872783453
'Carfan lai'
Dywedodd Steve Tandy y bydd y garfan yn llai erbyn i'r gemau gychwyn, ac yn dweud ei fod wedi dewis 48 chwaraewyr gan y bydd y tymor rygbi yn gorffen ar adegau gwahanol i'r chwaraewyr.
“Bydd rhai chwaraewyr yn gorffen eu tymhorau gyda’u clybiau’r penwythnos nesaf ond mae’n bosib na fydd rhai eraill yn gallu ymuno â’r garfan tan 27 Mehefin," meddai.
"Yn amlwg felly bydd y garfan yn dod at ei gilydd yn raddol a dyna’r rheswm pam fy mod wedi dewis 48 o chwaraewyr. Byddwn yn gwneud penderfyniad am y garfan lai ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd ar ôl i ni wynebu’r Barbariaid.
“Ein blaenoriaethau ni yr haf yma yw parhau i ddatblygu’r chwaraewyr, gwneud yn siŵr bod eu lefelau ffitrwydd yn cyrraedd y safon angenrheidiol a datblygu eu sgiliau yn ystod eu cyfnod gyda ni.
"Fe all y ffaith y bydd gennym ni grwpiau llai ambell waith, helpu gyda hynny, ond y bwriad clir yw gwneud yn siŵr ein bod yn cael pawb i’r un lefel yn y pendraw a bod y cynnydd hwnnw’n ein galluogi i weithredu’n patrymau a’n cynlluniau chwarae hefyd.”