Iran yn wfftio sylwadau heddwch Trump
Mae Arlywydd yr UDA wedi dweud bod America yn "siarad gyda'r bobl iawn" o Iran a'u bod yn "awyddus iawn" i ddod i gytundeb er mwyn dod a'r rhyfel i ben.
Ond wfftio hynny mae arweinyddion milwrol Iran gan ddweud bod Donald Trump yn "ceisio darlunio eich methiant fel buddugoliaeth."
Mae yna adroddiadau bod America wedi rhoi dogfen heddwch 15 pwynt i Iran sydd yn cynnwys dymchwel adnoddau niwclear yn gyfnewid am godi sacsiynau ar y wlad.
Yn sgil sylwadau Donald Trump mae prisiau olew wedi gostwng ryw 4.5% ddydd Mercher gyda chasgen o olew yn costio £74.61.
Mae Iran wedi dweud y gall llongau "sydd ddim yn fygythiol" deithio drwy gulfor Hormez. Mae tua 20% o olew'r byd a nwy naturiol yn pasio trwy'r culfor ac felly mae'n safle hanfodol ar gyfer allforion y byd.
Yn ei hanfod yr hyn sydd yn digwydd yw bod gwledydd neu gwmnïau yn dod i gytundeb fel bod eu llongau yn gallu mynd trwy'r culfor yn ddiogel. Ond mae Iran wedi datgan yn glir eu bod am barhau i reoli'r culfor nes y daw'r rhyfel i ben.
