Iran yn tanio dronau at longau America ar ôl i lynges Trump gipio llong nwyddau
Mae Iran wedi tanio dronau at longau America ar ôl i lynges America gipio un o longau nwyddau'r wlad yng Nghwlff Oman, yn ôl adroddiadau gan gyfryngau'r wlad.
Dywedodd yr Arlywydd Donald Trump fod llynges America wedi cipio llong o'r enw Touska a oedd yn hwylio dan faner Iran nos Sul, ar ôl i'r tancer geisio osgoi ei blocâd sydd ar waith ar hyn o bryd o amgylch porthladdoedd y wlad.
"Fe wnaeth criw Iran wrthod gwrando, felly fe wnaeth ein llynges eu hatal yn syth drwy chwythu twll yn ystafell yr injan," meddai.
Mae uwch gadfridogion Iran wedi dweud fod America wedi torri'r cadoediad o bythefnos rhwng y ddwy wlad, gan ddisgrifio'r ymosodiad ar y llong - a oedd yn teithio o China i Iran - fel "lladrad morwrol ac arfog".
Mewn ymateb i'r ymosodiad, taniodd luoedd Iran ddronau at longau milwrol yr Unol Daleithiau.
Daw'r tensiynau diweddaraf rhwng y ddwy wlad ar ôl i lywodraeth Iran wneud tro pedol ar eu penderfyniad i ailagor Culfor Hormuz ddydd Sul.
Ers hynny, mae Iran wedi gwrthod cymryd rhan mewn ail rownd o sgyrsiau heddwch gydag America, yn ôl cyfryngau'r wlad.
Roedd disgwyl i'r trafodaethau gael eu cynnal ym Mhacistan nos Lun.