Iran yn gwrthod honiad Trump bod y wlad wedi gofyn am gadoediad
Mae Swyddfa Dramor Iran wedi gwrthod honiad Donald Trump fod y wlad wedi gofyn am gadoediad, gan ei alw'n "ffug a di-sail".
Yn gynharach, mewn neges ar ei blatfform Truth Social, dywedodd Mr Trump fod "Arlywydd Cyfundrefn Newydd" Iran wedi gofyn am gadoediad.
Ond dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau y byddai ei wlad yn ystyried y cynnig dim ond pan y bydd Culfor Hormuz yn cael ei hailagor.
Dywedodd Mr Trump yn ei neges: "Mae Arlywydd Cyfundrefn Newydd Iran, llawer llai Radicalaidd a llawer mwy deallus na'i ragflaenwyr, newydd ofyn i Unol Daleithiau America am GADOEDIAD!
"Byddwn yn ystyried pan y bydd Culfor Hormuz ar agor, yn rhydd, ac yn glir.
Tan hynny, rydym yn chwythu Iran i abergofiant neu, fel maen nhw'n ei ddweud, yn ôl i Oesoedd y Cerrig!!! Arlywydd DJT"
Mae'r arlywydd wedi honni sawl gwaith yn flaenorol ei fod mewn trafodaethau heddwch gyda chyfundrefn Iran - ond mae'r wlad honno wedi gwadu bodolaeth unrhyw drafodaethau heddwch.
Yr un oedd ymateb Iran i neges ddiweddaraf yr arlywydd - gan wadu bod unrhyw drafodaethau wedi bod.
Anerchiad
Mae disgwyl i Mr Trump annerch ei wlad mewn darllediad o’r Tŷ Gwyn nos Fercher gyda “diweddariad pwysig” am ryfel Iran, meddai.
Nos Fawrth fe awgrymodd y gallai’r wlad fod wedi gorffen ei rhyfel gydag Iran o fewn dwy i dair wythnos.
“Rydyn ni wedi cael newid cyfundrefn,” meddai wrth newyddiadurwyr yn y Tŷ Gwyn. “Doedd newid cyfundrefn ddim yn un o’r pethau oedd gen i fel nod.
“Roedd gen i un nod: na fydden nhw’n cael arf niwclear, ac mae’r nod hwnnw wedi’i gyflawni. Fydd ganddyn nhw ddim arfau niwclear.
“Ond rydyn ni’n gorffen y gwaith, ac rwy’n meddwl o fewn rhyw bythefnos, neu efallai ychydig ddyddiau’n hirach, y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.
“Ond rydyn ni eisiau dinistrio pob un peth sydd ganddyn nhw.”
Dywedodd Gweinidog Tramor Iran ddydd Mawrth eu bod wedi paratoi ar gyfer “o leiaf chwe mis” o ryfel.
“Nid ydym wedi gosod unrhyw derfynau amser ar gyfer amddiffyn ein hunain,” meddai Abbas Araghchi wrth Al Jazeera.