Scott Mills yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers cael ei ddiswyddo gan y BBC
Mae'r cyn-gyflwynydd radio Scott Mills wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers iddo gael ei ddiswyddo gan y BBC.
Dywedodd ei fod wedi bod yn destun “sibrydion a dyfalu” ers i’r BBC gyhoeddi ei ddiswyddiad yn gynharach yr wythnos hon.
Mewn datganiad trwy ei gyfreithiwr, dywedodd Mr Mills: “Mae’r cyhoeddiad diweddar nad wyf bellach dan gontract i’r BBC wedi arwain at gyhoeddi sibrydion a dyfalu.
“Mewn ymateb i hyn mae Heddlu’r Met wedi gwneud datganiad, ac rwyf yn cadarnhau ei fod yn ymwneud â mi.
"Gwnaed honiad yn fy erbyn yn 2016 o drosedd rywiol hanesyddol a oedd yn destun ymchwiliad yr heddlu lle cydweithredais yn llawn ac ymatebais iddo yn 2018.
“Fel y mae’r heddlu wedi’i ddatgan, cyflwynwyd ffeil o dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, a benderfynodd nad oedd y trothwy tystiolaethol wedi’i gyrraedd i ddwyn cyhuddiadau."
'Parchu fy nymuniad'
Ychwanegodd yn y datganiad: “Gan fod yr ymchwiliad yn ymwneud â honiad sy’n dyddio’n ôl bron i 30 mlynedd a bod ymchwiliad yr heddlu wedi cau saith mlynedd yn ôl, rwy’n gobeithio y bydd y cyhoedd a’r cyfryngau yn deall ac yn parchu fy nymuniad i beidio â gwneud unrhyw sylwadau cyhoeddus pellach ar y mater hwn.
“Hoffwn ddiolch o waelod fy nghalon i bawb sydd wedi cysylltu â mi gyda charedigrwydd, fy nghyn-gydweithwyr, a’m gwrandawyr annwyl, yr wyf yn eu colli’n fawr.”
Mae'r BBC wedi cydnabod eu bod yn gwybod am ymchwiliad yr heddlu i'r cyflwynydd yn 2017, ond yn ôl y gorfforaeth, roedd angen gweithredu'n syth ar ôl iddyn nhw dderbyn "gwybodaeth newydd" yn yr wythnosau cyn iddo gael ei ddiswyddo.
Datgelodd y BBC iddyn nhw ddod â chytundeb y cyflwynydd ar BBC Radio 2 i ben ddydd Gwener diwethaf, ddyddiau yn unig ar ôl iddo gael ei dynnu oddi ar yr awyr.
Mae'r gorfforaeth bellach wedi cyhoeddi i hynny ddigwydd ar ôl iddyn nhw dderbyn gwybodaeth yn yr wythnosau diwethaf.
'Synnu nifer'
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Cafodd Scott Mills yrfa hir yn y BBC, roedd yn hynod o boblogaidd, ac rydym yn gwybod fod y newyddion yr wythnos hon wedi synnu nifer.
“Rydym hefyd yn cydnabod fod tipyn o ddyfalu yn y cyfryngau ac ar-lein ers ddydd Llun. Rydym yn gobeithio fod pobl yn deall bod cyfyngiadau ar yr hyn y medrwn ei ddweud, oherwydd mae angen i ni gymryd i ystyriaeth hawliau'r rhai sydd ynghlwm â hyn.
“Yr hyn y medrwn ei gadarnhau ydy i ni dderbyn gwybodaeth newydd yn gysylltiedig â Scott yn yr wythnosau diwethaf ac fe siaradom yn uniongyrchol ag e. O ganlyniad i hynny, fe weithredodd y BBC yn syth, yn unol â'n diwylliant a gwerthoedd, gan ddod â'i gytundebau i ben, ddydd Gwener, 27 Mawrth.”
Ychwanegodd y gorfforaeth: “Ar fater arall, gallwn gadarnhau fod y BBC yn ymwybodol yn 2017 fod ymchwiliad gan yr heddlu, a gafodd ei gau yn 2019, gyda neb yn cael ei arestio na'i gyhuddo. Rydym yn cynnal ymholiadau pellach er mwyn deall manylion yr hyn yr oedd y BBC yn ymwybodol ohono ar y pryd.”
Honiadau
Fe gafodd Scott Mills ei holi am honiadau o droseddau rhyw yn erbyn bachgen o dan 16 oed yn 2018, ond fe gafodd yr achos ei ollwng yn ddiweddarach yn sgil diffyg tystiolaeth, yn ôl datganiad gan yr heddlu.
Dywedodd Heddlu'r Met wrth y BBC fod dyn, a oeddyn ei 40au ar y pryd, wedi wynebu ymchwiliad yn sgil honiadau a ddigwyddodd yn honedig rhwng 1997 a 2000.
Yn ôl The Mirror, fe gafodd yr achos ei ollwng yn 2019 ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Gorlon ddatgan nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn cyhuddiadau.
Ymunodd Scott Mills ag arlwy BBC Radio 2 yn ystod yr wythnos yn 2022 pan gymerodd le Steve Wright fel cyflwynydd y prynhawn.
Cyn BBC Radio 2, bu’n gweithio ar BBC Radio 1 ers 1998, a bu hefyd yn cyflwyno rhaglen benwythnos ar BBC Radio 5 Live.
Yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf y darlledwr, roedd Mills yn ennill rhwng £355,000 a £359,999 y flwyddyn.
Llun Scott Mills gan Jonathan Brady / PA.