Hwb i un o adar ysglyfaethus Cymru sydd dan y bygythiad mwyaf
Mae un o adar ysglyfaethus Cymru sydd dan y bygythiad mwyaf wedi cael tymor bridio calonogol yn ôl RSPB Cymru.
Yn RSPB Llyn Efyrnwy ym Mhowys, cafodd chwe thiriogaeth y Boda Tinwyn ei sefydlu yn y gwanwyn, gyda phum nyth lle’r oedd 17 o gywion wedi llwyddo i fagu plu.
Roedd pedwar cyw arall wedi magu plu yn RSPB Tanrallt, ger Trawsfynydd, Gwynedd, gan ddod â’r cyfanswm ar draws y ddau safle i 21.
Mae'r Boda Tinwyn yn un o adar ysglyfaethus mwyaf trawiadol Cymru, gyda'r gwrywod yn llwyd golau, a'r benywod yn frown gyda phen ôl gwyn amlwg a chynffon streipiog.
Maent yn cael eu gweld yn aml yn hedfan yn isel dros dirweddau ucheldirol gyda’u hadenydd mewn siâp ‘V’ bas.
Mae gan y Boda Tinwyn ofynion cynefin penodol, ac maen nhw fel arfer yn nythu ar y ddaear yng nghanol grug a llystyfiant tal arall ar dirweddau agored yr ucheldir.
Er bod Llyn Efyrnwy yn cynrychioli llai nag 1% o’r cynefin nythu a allai fod yn addas i’r Boda Tinwyn sydd ar gael ledled Cymru, yn ôl amcangyfrif, mae dros 20% o boblogaeth Cymru wedi defnyddio’r warchodfa yn ystod y tymor bridio.
Llwyddodd tri chyw Boda Tinwyn i fagu plu dros yr haf yn RSPB Carngafallt hefyd, gan ddod â'r cyfanswm i 19 o gywion wedi magu plu yn y warchodfa ers 2022.
Dywedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru: “Mae gweld cynifer o’r Boda Tinwyn ifanc yn llwyddo i esgyn i’r awyr eleni yn newyddion gwych i rywogaeth sy’n dal i fod yn aderyn magu prin yng Nghymru.
"Mae erledigaeth anghyfreithlon yn ffactor mawr yn ei statws ar y Rhestr Goch ledled y DU, ac mae’n hanfodol bod gan dirwedd Cymru brithwaith amrywiol o gynefinoedd sydd yn darparu lleoedd addas i Fodaod Tinwyn nythu, llochesu a dod o hyd i fwyd.”
