Houthis yn ymosod ar Israel am y tro cyntaf ers dechrau'r rhyfel yn y Dwyrain Canol
Mae grŵp milwrol yr Houthis yn dweud eu bod wedi ymosod ar Israel am y tro cyntaf ers dechrau'r rhyfel rhwng America ac Israel ag Iran.
Dywedodd y grŵp - sydd yn cael eu cefnogi gan Iran - eu bod wedi tanio taflegrau "yn targedu safleoedd milwrol Israel".
Daw hynny wrth iddyn nhw ymateb i ymosodiadau gan Israel ar Iran, Libanus, Irac a thiriogaeth ym Mhalestina.
Ychwanegodd y grŵp y byddan nhw'n parhau i weithredu tan fod y brwydro yn dod i ben.
Fore Sadwrn dywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel eu bod wedi atal taflegryn a gafodd ei danio o Yemen, lle mae'r Houthis wedi lleoli.
Mae’r Houthis yn grŵp Islamaidd sydd yn gysylltiedig â Tehran, fel y mae Hamas ac Hezbollah, ac sydd yn ceisio lleihau'r dylanwad gorllewinol yn y Dwyrain Canol.
Daeth y grŵp i'r amlwg yn y 1990au ac mae eu cefnogwyr yn bennaf yn dod o rengoedd Mwslimiaid Zaidi Shia a llwyth yr Houthi.
Dros nos mae taflegrau wedi parhau i gael eu tanio yn y Dwyrain Canol.
Cafodd pump o bobl eu hanafu yn Abu Dhabi wedi i'r wlad atal taflegryn rhag taro'r brifddinas, meddai'r gwasanaethau brys yno.
Hefyd yn Saudi Arabia mae'r lluoedd amddiffyn wedi atal taflegrau rhag taro'r wlad.
Fe gafodd 12 o filwyr America eu hanafu yno ddydd Gwener wedi ymosodiad ar safle awyr Prince Sultan.
Mae'n fis ers i'r rhyfel cychwyn, ac mae America yn dweud eu bod yn "obeithiol" o gynnal cyfarfodydd gydag Iran wythnos yma er mwyn ceisio dod â'r rhyfel i ben.
Maen nhw wedi cynnig cytundeb "15 pwynt" i Iran ac maen nhw'n "disgwyl" ateb i'r cynnig hwnnw'r wythnos hon.
