Hezbollah yn tanio at Israel wrth i'r brwydro ymledu
Mae Israel a Hezbollah yn Libanus wedi bod yn tanio taflegrau at ei gilydd wrth i'r brwydro ymledu yn y Dwyrain Canol.
Yn ôl arweinwyr Hezbollah maen nhw wedi gweithredu er mwyn dial ar Israel am ladd arweinydd Iran, yr Ayatollah Ali Khamenei.
Dyma'r trydydd diwrnod lle mae ymgyrch filwrol America ac Israel yn parhau yn erbyn Iran.
Yn ôl Arlywydd yr UDA, Donald Trump fe allai'r ymgyrch bara wythnosau. Mae hefyd wedi rhybuddio bod hi'n "debygol" y bydd mwy o filwyr America yn cael eu lladd ar ôl i dri farw yn ystod y penwythnos.
Yn Cyprus, mae safle Prydeinig yr RAF wedi ei dargedu. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn amau mai ymosodiad drôn oedd hyn ond does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi ei anafu.
Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Syr Keir Starmer ddweud bod Prydain wedi caniatáu cais gan yr UDA i ddefnyddio safleoedd milwrol Prydain er mwyn lansio taflegrau at Iran.
Yn y cyfamser mae prisiau olew ar draws y byd wedi codi wrth i'r marchnadoedd agor bore dydd Llun.
Llun: Reuters
