Wilkinson i barhau i gyfnewid y gôl geidwad yn ymgyrch Cymru

Safia Middleton-Patel ac Olivia Clark

Mae prif hyfforddwr tîm pêl droed menywod Cymru wedi dweud y bydd yn parhau i gyfnewid y gôl geidwad yn ystod ymgyrch Cymru i geisio cyrraedd Cwpan y Byd.

Bydd Cymru yn dechrau'r ymgyrch yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yn Uherske Hradiste ddydd Mawrth.

Yn y gorffennol mae Rhian Wilkinson wedi bod yn hapus i roi Olivia Clark a Safia Middleton-Patel yn y safle gôl geidwad ar gyfer y gemau ac mae'n bwriadu parhau i ddefnyddio'r ddwy.

"Mae'r ddwy wedi perfformio ar gyfer Cymru ond dwi ddim yn teimlo bod dim un ohonyn nhw sydd wedi cipio'r crys eto. Dwi'n trio gwneud yn siŵr bod yr awyrgylch ddim yn un or-gystadleuol," meddai. 

Dywedodd bod y ddwy yn gwybod ym mha gemau maent yn chwarae a bod yn rhaid iddyn nhw berfformio yn y gemau er mwyn cael ennill eu lle yn barhaol fel y gôl geidwad. 

Mae Clark, 24 oed sydd yn chwarae gyda Leicester City efo mwy o brofiad na Middleton-Patel sy'n 21 oed ac yn chwarae i Manchester United ar lefel rhyngwladol ac ar lefel clwb.

Ym mhencampwriaethau Ewrop haf y llynedd Clark ddechreuodd dwy o'r gemau gyda Middleton- Patel yn chwarae'r gêm arall.

Y rhwystredigaeth i Wilkinson yw nad yw un o'r ddwy yn chwarae yn gyson i'w clybiau. "Mae'r ddwy wedi cael rhai adegau gyda'u clybiau ond does yr un yn ddechreuwyr cyson," meddai.

Ar ôl chwarae i ffwrdd dydd Mawrth bydd menywod Cymru yn chwarae adref dydd Sadwrn nesaf yn erbyn Montenegro yn Llanelli. 

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.