Heddlu’r Alban yn ymchwilio i ymweliadau Andrew ac Epstein ag ystâd Balmoral

Llun: PA
Andrew Mountbatten

Mae ditectifs yn ymchwilio i’r cyfnod yr oedd Andrew Mountbatten-Windsor, Jeffrey Epstein a Ghislaine Maxwell wedi ymweld ag ystâd breifat y Brenin yn yr Alban.

Dywedodd Heddlu’r Alban eu bod wedi derbyn gwybodaeth a bod ymchwiliad i’r cyfnod yr oedd cyn-Ddug Efrog wedi'i dreulio gyda'r pedoffeil Jeffrey Epstein ym Mhalas Balmoral yn ei "gamau cynnar iawn".

Yn ôl adroddiad gan y Daily Express, mae'r ymholiadau’n ymwneud â honiadau bod menywod wedi’u masnachu i’r ystâd.

Mae’n ymddangos bod lluniau a ryddhawyd yn flaenorol gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau yn dangos Andrew ac Epstein ar drip hela yn Balmoral.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Alban: "Rydym wedi derbyn gwybodaeth ac mae ymholiadau yn parhau, ond mae’r rhain yn eu camau cynnar iawn.

"Mae pob ymholiad yn cael ei arwain gan dystiolaeth, ac mae anghenion y dioddefwyr sydd wedi goroesi wrth wraidd yr ymholiadau hynny.

"Ni fyddem byth yn cadarnhau manylion ymholiadau sydd ar y gweill, ac ni fyddai’n briodol i ni wneud sylw pellach."

Mae sawl heddlu, gan gynnwys Heddlu Dyffryn Tafwys, Heddlu’r Met a Heddlu Surrey, hefyd yn cynnal ymchwiliadau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi dogfennau Epstein, yn ôl cadarnhad gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC).

"Mae nodi unrhyw droseddau posib pellach, pobl sy'n cael eu hamau, dioddefwyr neu dystion yn broses gymhleth a bydd yn cymryd amser," meddai'r NPCC.

"Ond mae plismona’r DU yn parhau’n ymrwymedig i gynnal asesiad manwl o’r deunydd a ryddhawyd gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau."

Nid oes ymchwiliad cenedlaethol ar y gweill ar hyn o bryd, meddai’r NPCC.

Image
Bu farw Jeffrey Epstein yn y carchar yn 2019
Bu farw'r pedoffeil Jeffrey Epstein yn 2019

Cafodd cyn-Ddug Efrog ei arestio ar ei ben-blwydd yn 66 oed ar 19 Chwefror ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. 

Daeth hynny ar ôl honiadau ei fod wedi rhannu gwybodaeth sensitif ag Epstein yn ystod ei gyfnod fel llysgennad masnach y DU.

Cafodd Andrew ei holi dan rybudd cyn cael ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau. 

Mae'n gwadu iddo wneud unrhyw beth o'i le.

Ebyst

Mewn cyfres o ddogfennau Epstein a ryddhawyd y llynedd, roedd e-bost wedi’i lofnodi ag "A" yn gofyn i Maxwell am "ffrindiau amhriodol".

Mewn un o bedwar e-bost a anfonwyd gan rywun oedd yn defnyddio’r enw Y Dyn Anweledig at Maxwell ym mis Awst 2001, dywedodd yr unigolyn fod ei "was" wedi marw’n ddiweddar a’i fod wedi "gadael y Llynges Frenhinol".

Fe wnaeth Andrew adael y Llynges Frenhinol yn y mis cyn i'r e-bost gael ei anfon.

Mewn e-bost arall gan yr un unigolyn, ar 16 Awst 2001, dywedodd ei fod yng "Ngwersyll Haf y Teulu Brenhinol ym Mhalas Balmoral", cyn gofyn i Maxwell: "Ydych chi wedi dod o hyd i rai ffrindiau amhriodol i mi?"

Ym mis Mawrth 2002, dywedodd e-bost gan Maxwell at Y Dyn Anweledig ei bod wedi trosglwyddo neges i unigolyn na chafodd ei enwi. Roedd y neges yn dechrau gyda’r geiriau: "Dw i newydd roi eich rhif ffôn i Andrew."

Roedd Andrew yn gynrychiolydd arbennig y DU dros fasnach a buddsoddi rhyngwladol rhwng 2001 a 2011, pan roddodd y gorau i’r rôl yn sgil dadlau am ei gyfeillgarwch ag Epstein.

Ni dderbyniodd gyflog am deithio o amgylch y byd ac o fewn y DU i hyrwyddo buddiannau busnes Prydain, ond roedd beirniadaeth am y miloedd o bunnoedd a gafodd ei wario bob blwyddyn ar ei dreuliau a’i gostau teithio.

Daeth ei benderfyniad i roi’r gorau i’r rôl yn yr un flwyddyn ag y cafodd ei weld mewn llun gyda’i fraich o amgylch Virginia Giuffre, a wnaeth honni iddi gael ei cham-drin yn rhywiol gan y cyn-Ddug.

Dywedodd Giuffre iddi gael ei masnachu i’r cyn-Ddug yn nhŷ Maxwell, a gafwyd yn euog o fasnachu pobl at ddibenion rhyw.

Mae Andrew wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, ond fe ddaeth y ddau i setliad tu allan i lys yn 2022. 

Bu farw Ms Giuffre drwy hunanladdiad yn 41 oed ym mis Ebrill 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.