Yr heddlu'n chwilio am fachgen 14 oed o Fôn sydd ar goll
Mae Heddlu'r Gogledd yn chwilio am fachgen 14 oed o Borthaethwy ym Môn sydd ar goll.
Dywedodd y llu bod Llyr wedi cael ei weld am y tro diwethaf am tua 15.45 ddydd Mawrth.
Mae'n cael ei ddisgrifio fel bachgen 5 troedfedd 6 modfedd o daldra gyda chorff main, gwallt brown byr a ffrinj hir.
Roedd yn gwisgo hwdi ddu, trowsus loncian du ac esgidiau hyfforddi du pan gafodd ei weld ddiwethaf.
Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth amdano i gysylltu gyda nhw.
"Os ydych chi wedi gweld Llyr, neu'n gwybod ble mae o, cysylltwch â ni gan ddyfynnu cyfeirnod 53734," meddai'r heddlu.