'Achlysur i'r clwb a'r gymuned': Cynnal digwyddiad mawr cyntaf clwb rygbi ers tân dinistriol
'Achlysur i'r clwb a'r gymuned': Cynnal digwyddiad mawr cyntaf clwb rygbi ers tân dinistriol
Fe fydd Clwb Rygbi Penarth yn cynnal eu digwyddiad mawr cyntaf ddydd Gwener ers i dân achosi difrod sylweddol yno ym mis Rhagfyr y llynedd.
Bydd y clwb yn wynebu tîm Barbariaid Cymru ar Ddydd Gwener y Groglith, gan barhau â thraddodiad hanesyddol.
Fe gafodd y gêm gyntaf rhwng y ddau dîm ei chynnal ym 1901, ac eleni fe fydd hi'n 125 mlynedd ers y digwyddiad hanesyddol hwnnw.
Fe gafodd adeilad Clwb Athletau Penarth, sydd yn gartref i Glwb Rygbi Penarth, Clwb Criced Penarth, a Chlwb Hoci Menywod Penarth ei ddifrodi'n sylweddol ym mis Rhagfyr y llynedd.
Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach fod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol yn ôl ymchwilad i'r tân.
Cafodd nifer o eitemau gwerthfawr eu colli hefyd, gan gynnwys rhodd o ben anifail y Springbok a gafodd ei gyflwyno gan dîm rygbi'r Barbariaid wedi iddyn nhw guro De Affrica ym Mharc yr Arfau ym 1961.
Cafodd crys dan-18 a chap yn perthyn i'r diweddar David Hancock, a oedd yn gyn-chwaraewr Cymru a Phenarth, hefyd eu colli.
Dywedodd hyfforddwr tîm cyntaf Clwb Rygbi Penarth, Owain George, wrth Newyddion S4C: "Dydd Gwener, ma' gêm mawr gyda ni yn erbyn Barbariaid Cymru, achlysur pwysig iawn yn hanes y clwb.
"Mae ‘di bod yn effaith enfawr ar y clwb [tân mis Rhagfyr 2025], y’n ni ‘di trial cadw chwarae rygbi ma’ lot o bobl yn dod a mynychu’r clwb yn yr wythnos ac ar dydd Sadwrn a dydd Sul, ond y peth pwysicaf i ni yw bo’ ni wedi bod yn gallu chwarae rygbi a cadw chwarae rygbi."
Ychwanegodd Andrew Edwards, hyfforddwr dan-14 y clwb: "Mae ‘di bod yn anodd i Penarth y tymor ’ma a jyst i colli rywle i gymdeithasu, mae ‘di bod yn anodd, mae’n mynd i fod yn ddydd mawr i’r clwb dwi’n credu jyst i neud rhywbeth fel hyn i ddod â phobl ‘nôl i’r clwb jyst i cario mlaen.
"Ma’ nhw mo’yn dod ‘nôl ar dydd Sul, ar ôl gêm i jyst gymdeithasu gyda’i ffrindiau, edrych ar y rygbi ar y teledu, a’r un peth gyda rhieni a’r cefnogwyr hefyd, jyst fingers crossed ma’ popeth yn mynd yn y cyfeiriad iawn."
Mae gan y Barbariaid hanes cryf â Phenarth, gan iddyn nhw arfer dechrau eu taith o amgylch de Cymru yn y dref, a chwarae gêm flynyddol ar Ddydd Gwener y Groglith yno.
Cafodd Clwb Rygbi Penarth ei ffurfio ym 1880 gan Cyril a Llewellyn Bachelor, ac mae gan y tîm hanes cyfoethog gan gyfrannu chwaraewyr i'r llwyfan rhyngwladol tan iddo ddechrau edwino yng nghanol y 70au, a ddigwyddodd ar yr un pryd ag ail-strwythuro mawr rygbi Cymru.
Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i'r clwb oedd y gêm ar ddydd Gwener y Groglith yn erbyn y Barbariaid.
"Ma' bois sydd wedi gwisgo'r crys coch i Gymru yn dod i chwarae, Bradley Davies, Andy Powell, Tom Shanklin... ma' Evan Lloyd a Jamie Robinson yn mynd i helpu mas gyda'r tîm," meddai Andrew.
"Ni 'di cadw'r Barbariaid yn strictly Cymraeg ac mae'n mynd i fod yn ddydd arbennig i'r clwb jyst i neud rhywbeth fel hyn."
Gyda'r gwaith o ail-adeiladu yr adeilad yn dechrau yn araf, mae Owain yn gobeithio y bydd y clwb yn gallu edrych ymlaen at y dyfodol bellach.
"Ma’ dros 300 o blant gyda ni yn chwarae bob dydd Sul, so ma’n bwysig bo’ nhw’n gallu cadw dod a chwarae rygbi a gweld eu ffrindiau bob penwythnos," meddai.
"Ma’n achlysur mawr i ni fel clwb ac i’r cymuned lleol, a mae’n bwysig bo’ ni’n dangos i bobl bo’ ni’n cadw fynd, a mynd o nerth i nerth yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf."