Donald Trump yn dweud bod ymgyrch filwrol ei wlad yn Iran 'bron ar ben'

Araith Trump am ryfel Iran

Mae Donald Trump wedi bygwth ymosod ar seilwaith olew Iran ac wedi galw ar wledydd eraill i "ddangos dewrder" drwy ailagor Culfor Hormuz.

Mewn anerchiad o’r Tŷ Gwyn nos Fercher, dywedodd arlywydd yr Unol Daleithiau fod yr ymgyrch filwrol yn erbyn y wlad yn y Dwyrain Canol "bron â dod i ben".

Dywedodd Mr Trump fod "rhan anodd" y rhyfel eisoes wedi gorffen a bod Iran wedi cael ei "dinistrio".

Galwodd ar wledydd eraill i ddangos "dewrder" drwy helpu i ailagor Culfor Hormuz – llwybr hanfodol sy'n cludo tua 20% o allforion olew y byd – ond pwysleisiodd nad oedd yr Unol Daleithiau yn dibynnu arno.

"Mae'n rhaid i wledydd y byd sy’n derbyn olew drwy Gulfor Hormuz ofalu amdano," meddai.

"Mae'n rhaid iddyn nhw ei drysori. Mae'n rhaid iddyn nhw ei gipio a’i drysori. Gallan nhw ei wneud yn hawdd.

"Byddwn ni’n eu helpu, ond dylen nhw gymryd yr awenau wrth amddiffyn yr olew y maen nhw’n dibynnu cymaint arno.

"Felly i’r gwledydd na allant gael tanwydd, nifer ohonyn nhw wedi gwrthod ymwneud â dienyddio Iran, roedd yn rhaid i ni ei wneud ein hunain."

Olew o'r UDA

Ychwanegodd: "Mae gen i awgrym. Rhif un, prynwch olew o’r Unol Daleithiau. Mae gennym ni ddigon. Mae gennym ni gymaint, ac yn ail, dangoswch rhywfaint o ddewrder ar y funud olaf. Dylech chi fod wedi gwneud eisoes. Dylech chi fod wedi gwneud gyda ni fel y gofynnwyd.

"Ewch i’r culfor a’i gymryd, ei amddiffyn, ei ddefnyddio i chi’ch hunain.

"Mae Iran wedi’i ddinistrio i bob pwrpas. Mae’r rhan anodd wedi’i chwblhau, felly dylai fod yn hawdd.

"A beth bynnag. Pan fydd y gwrthdaro drosodd, bydd y culfor yn agor yn naturiol. Bydd yn agor yn naturiol. Byddan nhw eisiau gallu gwerthu olew, oherwydd dyna’r cyfan sydd ganddyn nhw i geisio ei ailadeiladu. 

"Bydd yn ailddechrau’r llif a bydd prisiau nwy yn gostwng yn gyflym."

'Byddwn ni’n eu taro nhw’n galed'

Mae ymosodiadau Iran ar longau sy'n mynd trwy Culfor Hormuz wedi arwain at brisiau olew i godi ar draws y byd.

Fe wnaeth pris olew crai godi i fwy na $105 y gasgen nos Fercher yn dilyn ei anerchiad.

Fe aeth ymlaen i ddweud y byddai'r Unol Daleithiau yn ymosod ar seilwaith ynni Iran os oes angen.

"Byddwn ni’n eu taro nhw’n galed iawn dros y pythefnos nesaf," meddai.

"Os nad oes cytundeb, byddwn ni’n taro pob un o’u gweithfeydd trydan."

Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim wedi taro eu holew, er mai dyna’r targed hawsaf, oherwydd ni fyddai’n rhoi hyd yn oed cyfle bach iddyn nhw oroesi nag ailadeiladu . Ond gallem ni ei daro, ac nid oes dim y gallant ei wneud amdano."

Yn ystod yr araith nos Fercher, fe wnaeth Mr Trump gyfeirio at yr 13 aelod o luoedd yr Unol Daleithiau a gafodd eu lladd yn y gwrthdaro.

"Rhaid inni anrhydeddu eu bywydau trwy gwblhau'r genhadaeth… rydyn ni'n mynd i'w gorffen yn gyflym iawn. Rydyn ni'n agosáu," meddai.

Ychwanegodd: "Rwy'n falch o ddweud bod ein hamcanion strategol craidd yn Iran bron â'u cwblhau."

Bydd Ysgrifennydd Tramor y DU, Yvette Cooper, yn cynnal trafodaethau gyda nifer o wledydd ddydd Iau gyda'r nod o ailagor Culfor Hormuz.

Llun: Reuters

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.