Heddlu yn Lloegr yn ymchwilio i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol ar ôl cyhoeddi ffeiliau Epstein

Jeffrey Epstein

Mae un o heddluoedd Lloegr yn ymchwilio i ddau honiad hanesyddol ar wahân o gam-drin plant yn rhywiol.

Daw'r ymchwiliad ar ôl cyhoeddi ffeiliau yn ymwneud â’r pedoffeil Jeffrey Epstein.

Dywedodd Heddlu Surrey eu bod yn ymchwilio i un adroddiad sy'n ymwneud â siroedd Surrey a Berkshire rhwng canol y 1990au a 2000, a honiad ar wahân o ganol i ddiwedd yr 1980au yng Ngorllewin Surrey.

Dywedodd yr heddlu nad oes unrhyw arestiadau wedi eu gwneud.

Ym mis Chwefror, galwodd yr heddlu ar dystion i gysylltu â nhw ar ôl i adroddiad gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau, a gafodd ei ryddhau ym mis Rhagfyr, nodi honiadau o fasnachu pobl ac ymosodiad rhyw yn Surrey.

Roedd yr honiadau yn ymwneud â phentref Virginia Water yn y sir ac yn dyddio rhwng 1994 a 1996.

Llun: Jeffrey Epstein.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.