Hantafeirws: Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi 'nifer fach o drigolion Cymru'

Llong yr MV Hondius yn cyrraedd Tenerife
MV Hondius yn cyrraedd Tenerife

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eu bod yn cefnogi "nifer fach o drigolion Cymru" sy'n gysylltiedig â'r achosion o hantafeirws, gyda'r risg i'r cyhoedd yn parhau yn "isel iawn".

Dywedodd y sefydliad iechyd ddydd Iau bod y trigolion dan sylw yn "iach", ac nad ydynt yn dangos symptomau o'r salwch ar hyn o bryd.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i achosion o hantafeirws gael eu cofnodi ar y llong MV Hondius, oedd ar fordaith rhwng yr Ariannin a Cape Verde.

Mae chwech o’r 22 o bobl o’r DU oedd ar y llong bellach wedi gadael ysbyty yn Lerpwl, lle’r oedden nhw'n hunan-ynysu ers dychwelyd i Brydain.

Fe ddaethon nhw yn ôl i'r DU nos Sul, cyn cael eu trosglwyddo i safle cwarantin Covid-19 yn Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri, Glannau Mersi.

Mewn datganiad, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn cefnogi nifer fach o drigolion Cymru sy'n gysylltiedig â'r achosion o hantafeirws.

"Bydd yr unigolion yn derbyn profion rhagofalus rheolaidd ac asesiadau iechyd cyhoeddus dyddiol am gyfnod eu hunan ynysu.

"Er bod hantafeirws yn haint difrifol, nid yw'n cael ei ledaenu trwy gyswllt cymdeithasol fel mynd i fannau cyhoeddus, siopau, gweithleoedd, neu ysgolion. 

"Yn yr achosion prin lle mae rhywun wedi dal yr haint gan rywun arall, maent wedi cael cyswllt agos a hir â'r unigolyn sydd wedi'i heintio â hantafeirws."

Ychwanegodd y sefydliad fod "holl drigolion o Gymru yn iach ac nid ydynt yn dangos symptomau".

"Os oes unrhyw un ohonynt yn dangos symptomau hantafeirws, mae trefniadau cadarn ar waith i sicrhau eu bod yn cael sylw meddygol brys.   

"Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion hysbys o hantafeirws yng Nghymru ac mae'r risg i'r cyhoedd yn isel iawn."

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, byrddau iechyd Cymru ac awdurdodau lleol i ymateb i'r achosion ac i gymryd camau priodol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.