Hantafeirws: Disgwyl i 22 o bobl adael yr ysbyty ar ôl hunan ynysu

Y llety lle mae teithwyr llong wedi bod yn hunan ynysu

Mae disgwyl i 22 o bobl oedd yn teithio ar long bleser lle'r oedd achosion o hantafeirws adael ysbyty yn Lerpwl lle maen nhw wedi bod yn hunan ynysu ers dychwelyd i'r DU.

Mae'r teithwyr a'r criw oedd ar long yr MV Hondius wedi bod yn hunan ynysu am 72 awr ar hen safle cwarantin Covid-19, sy'n rhan o Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri, Glannau Mersi.

Fe ddaethon nhw yn ôl i Brydain nos Sul, ac fe fydd disgwyl iddyn nhw ynysu am 42 diwrnod arall yn eu cartrefi.

Mae'r 22 o bobl yn cynnwys 20 o'r DU, un teithiwr o'r Almaen ac un teithiwr o Siapan.

Wythnos yma fe ddywedodd yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU bod y rhai sydd yn yr ysbyty yn "iach a heb symptomau," ac erbyn hyn fod disgwyl i 10 o deithwyr eraill gyrraedd y DU o diriogaethau Prydain fel mesur diogelwch.

Hyd yma, maen nhw wedi bod yn aros mewn fflatiau gyda bwyd a nwyddau hanfodol ac wedi bod yn cael gofal gan dimau o'r gwasanaeth iechyd a'r asiantaeth diogelwch.

Dywedodd May ei fod eisiau "tawelu meddyliau'r teithwyr a'r cyhoedd yn ehangach bod trefniadau cryf yn eu lle ac y bydd gofal i bawb ynghlwm bob cam o'r ffordd."

Bydd arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn asesu os gall teithwyr ynysu adref neu mewn lleoliad arall addas yn dibynnu ar eu sefyllfa fyw.

Ers i'r feirws ymledu mae tair marwolaeth wedi bod gyda dau o'r achosion wedi eu cadarnhau i fod yn ymwneud â'r hantafeirws.

Yn ôl Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd, Tedros Adhanom Ghebreyesus does "dim arwyddion bod y feirws am ymledu ar raddfa fawr" ond bod y gwaith yn parhau i atal ymledu "am fod hi'n bosib y gwelwn ni achosion eraill". 

Llun: Reuters 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.