Hanes hen ysbyty iechyd meddwl Dinbych i gael ei ail-greu’n ddigidol
Bydd Prifysgol Bangor yn ymchwilio i hanes hen ysbyty iechyd meddwl yn Ninbych a’i ail-greu’n ddigidol.
Cafodd Ysbyty Gogledd Cymru ei adeiladu yn yr 1840au fel yr unig ysbyty seiciatrig yng Nghymru i drin cleifion drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ers iddo gau yn 1995, mae’r adeilad wedi bod yn wag ac wedi dirywio’n sylweddol, gyda sawl achos o dresbasu a fandaliaeth dros y blynyddoedd.
Prynodd Cyngor Sir Ddinbych y safle yn 2018, gan roi’r golau gwyrdd i gam cyntaf ailddatblygiad gwerth £107 miliwn ym mis Ionawr 2025.
Mae’r adeilad wedi chwarae rhan yn hanes llenyddol Cymru, gyda mam prif gymeriad y nofel Un Nos Ola' Leuad gan Caradog Prichard yn cael ei chadw yno.
Mae hefyd wedi ymddangos mewn rhaglenni teledu am ysbrydion, gan gynnwys Most Haunted Live! mewn rhaglen o’r enw Village of the Damned.
Yn ôl ymchwilwyr, mae’r straeon am ysbrydion a’r dyfalu am hanes yr adeilad wedi golygu bod ei hanes gwirioneddol wedi’i golli.
Dros y tair blynedd nesaf, byddant yn archwilio archifau, llythyrau, dyddiaduron a phapurau newydd sy’n dyddio’n ôl i gyfnod cynllunio cynharaf yr adeilad yn yr 1840au, yn ogystal â holi pobl sydd â chysylltiad â’r safle am eu hatgofion.
Bydd yr ymchwil yn cael ei ddefnyddio i greu gwefan ddwyieithog gyda model 3D rhyngweithiol o’r ysbyty.
Bydd arddangosfa hefyd yn teithio i ganolfannau diwylliannol yn ardal yr hen ysbyty, gyda chyflwyniad arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol 2029.
Mae’r prosiect wedi derbyn £857,809.85 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, sef corff cyllido ymchwil cenedlaethol y DU.
'Trosglwyddo'r dreftadaeth yn ôl'
Dywedodd yr Athro Lucy Huskinson, sy'n arwain y prosiect, ei fod yn "trosglwyddo'r dreftadaeth hon yn ôl i'r bobl y gwnaeth ei phrofi".
"Rwy’n ddiolchgar y bydd yr adeilad nodedig hwn, a’r nifer o fywydau y mae wedi’u byw, o’i sefydlu, hyd at ddod yn adfail, i’r cynlluniau ar gyfer ei ailddatblygu, yn cael eu cadw mewn cof ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol," meddai.
"Os oes gennych chi ffotograff wedi'i guddio mewn drôr, hen fideo, deunydd ffilm, neu atgof neu deimladau sy'n gysylltiedig ag unrhyw ran o'r adeilad o gwbl (hyd yn oed dim ond crac yn y wal!), rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
"Mae pob cyfraniad yn ein helpu i greu darlun mwy cyflawn a gwir o'r hyn y mae'r adeilad hwn wedi'i olygu i'r gymuned hon ac i Gymru, a dyna, i mi, sy'n ei wneud yn werthfawr.
"Mae'n trosglwyddo'r dreftadaeth hon yn ôl i'r bobl y gwnaeth ei phrofi mewn gwirionedd, yn hytrach na'i gadael i ddatblygwyr neu straeon ysbrydion neu academyddion."
Mae Cyngor Sir Ddinbych, sy’n berchen ar y safle, hefyd yn rhan o’r prosiect.
Mae’r cyngor eisoes yn bwrw ymlaen â’i gynlluniau i adfer yr adeilad Gradd II* a’i drosi’n fflatiau preswyl.
Ond mae wedi nodi capel hanesyddol y safle fel cyfle i roi cartref parhaol i arddangosfa’r prosiect, ynghyd â lle parhaol i’w ddefnyddio gan y gymuned.