Ed Sheeran wedi ystyried rhoi'r ffidil yn y to ar ôl dadl Macklemore
Mae Ed Sheeran wedi dweud ei fod wedi cwestiynu a oedd eisiau “bod yn artist o gwbl” ar ôl y dadlau yn sgil tynnu Macklemore o’i daith fyd-eang.
Fe wnaeth artistiaid cefnogi a band cyfeilio’r seren benderfynu tynnu’n ôl o weddill ei daith The Loop.
Roedd hynny ar ôl i’r rapiwr o’r Unol Daleithiau, Macklemore, neu Benjamin Haggerty, gael ei dynnu o'r rhaglen yn sgil sylwadau am y gwrthdaro yn Gaza.
Wrth berfformio am y tro cyntaf ers y digwyddiad, dywedodd Sheeran wrth y dorf yn Lincoln Financial Field yn Philadelphia: “Doeddwn i wir ddim yn gwybod a fyddai’r daith hon yn parhau.
“Doeddwn i wir ddim yn gwybod a fyddwn i hyd yn oed yn mynd ar lwyfan eto, nac a oeddwn i hyd yn oed eisiau bod yn artist o gwbl.
“Mewn sefyllfaoedd fel hyn, rydych chi wir yn dod i wybod pwy yw eich ffrindiau, ac mae hi wedi bod yn wythnos od. Rwy’n teimlo bod y cyfan wedi digwydd yn gyflym iawn.”
Ar ddechrau’r sioe, fe wnaeth gyfaddef ei fod wedi gwneud “camgymeriadau” ac fe wnaeth gondemnio’r gwrthdaro yn Gaza fel “trychineb” oedd “heb gyfiawnhad”.
Dywedodd y canwr o Loegr ei fod wedi ceisio osgoi bod yn “sylwebydd gwleidyddol” yn y gorffennol am ei fod eisiau i’w sioeau fod yn ymwneud ag “undod”.
“Alla i ddim cuddio sut rwy’n teimlo am y peth mwyach,” meddai.
“Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn Israel ac yng ngŵyl gerddoriaeth Nova ar 7 Hydref yn erchyll ac yn ychwanegu at ganrifoedd o boen i bobl Iddewig.
“Mae’r hyn sy’n digwydd yn Gaza yn drychinebus, heb gyfiawnhad ac yn anghymesur. Mae maint y dinistr a’r colli bywydau ymhlith sifiliaid a phlant wedi torri fy nghalon.
“Ac ni allwn anwybyddu’r anghyfiawnder systemig rydym yn ei weld yn digwydd ar y Lan Orllewinol.”
'Pob celfyddyd yn wleidyddol'
Cyn y sioe, dywedodd rhai oedd yn mynd i’r cyngerdd eu bod yn parhau i gefnogi’r cerddor.
Dywedodd James Webber IV o Scranton, Pennsylvania: “Rwy’n sefyll gydag Ed. Rwy’n credu bod amser i wleidyddiaeth, ac nid cyngerdd cerddoriaeth yw’r lle i hynny.”
Dywedodd Kassandra Rivera o Philadelphia: “Mae gan bawb eu barn eu hunain ac mae hynny’n iawn.
“Fe ddes i yma i gael amser da a gwylio Ed Sheeran.
“Rydw i wedi bod yn aros blwyddyn gyfan i ddod i’w weld, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y sioe.”
Dywedodd Dwayne Smith o Ganada: “Dim ond ar gyfer Ed Sheeran rydyn ni yma. Gan roi y gwleidyddiaeth o’r neilltu, rydyn ni’n hoffi’r gerddoriaeth. Rydyn ni yma i’w gefnogi.
“Dyw heno ddim yn ymwneud â Phalesteina nac Israel i ni, dim ond y gerddoriaeth.”
Cafodd protest fach ond swnllyd o blaid Palesteina ei chynnal y tu allan i’r orsaf drenau tanddaearol sy’n gwasanaethu’r stadiwm, gannoedd o fetrau o’r safle.
Dywedodd Hillary Steinberg, sy’n byw yn Philadelphia, wrth yr Associated Press ei bod wedi cael ad-daliad am ei thocynnau ac wedi penderfynu mynd i’r brotest yn lle hynny.
Meddai: “Rwy’n credu bod pob celfyddyd yn wleidyddol, a bod pob cerddoriaeth yn wleidyddol. Felly mae’r dewis hwn, er ei fod yn dweud nad oedd yn rhan o'r hyn sy’n digwydd, yn ddewis gwleidyddol.”