'Pryderus iawn': Gwerthu rhes o dai mewn pentref yn Sir Ddinbych
Mae cyngor cymuned wedi mynegi pryder am y bwriad i werthu rhes gyfan o dai mewn pentref yn Sir Ddinbych.
Fe wnaeth Cyngor Cymuned pentref Cyffylliog gynnal cyfarfod brys ddydd Iau i drafod gwerthu’r chwech o dai ym Mryn Awelon.
Y bwriad yw gwerthu’r tai drwy BTG Eddisons Property Auctions fel un lot mewn ocsiwn ar 30 Medi, gydag amcanbris o £300,000.
Mae cyngor cymuned y pentref, sydd bedair milltir o dref Rhuthun, bellach wedi gwrthwynebu hyn ac wedi gofyn i Gyngor Sir Ddinbych atal yr arwerthiant am y tro.
Maen nhw wedi mynegi pryder y bydd gwerthu’r tai fel un lot yn golygu na fydd pobl leol yn gallu eu prynu.
Mewn llythyr at y cyngor sir, dywedodd Kelly McGregor, clerc a swyddog ariannol y cyngor cymuned, eu bod nhw wedi “pleidleisio yn unfrydol i wrthwynebu’n ffurfiol”.
Dywedodd fod “colli chwe chartref posibl yn arwyddocaol i bentref o’r maint hwn”.
“Gofynnwyd hefyd i Gyngor Sir Ddinbych atal neu dynnu’r lot o’r ocsiwn sydd wedi’i drefnu ar gyfer 30 Medi ar unwaith, tra bod y penderfyniad a’r opsiynau eraill yn cael eu hadolygu,” meddai.
“Mae’r Cyngor Cymuned yn bryderus iawn bod gwerthu chwe chartref presennol fel un lot, gydag amcanbris o £300,000, i bob pwrpas yn atal y rhan fwyaf o drigolion lleol a phrynwyr tro cyntaf rhag eu prynu.
“Mae hefyd yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd y safle cyfan yn cael ei brynu gan ddatblygwr neu fuddsoddwr masnachol.
“Mae Cyffylliog yn gymuned wledig fach lle mae’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn hynod gyfyngedig.”
Mae Cyngor Cymuned Cyffylliog wedi galw ar Gyngor Sir Ddinbych i ystyried:
- Cadw ac adnewyddu’r eiddo i’w defnyddio fel tai cymdeithasol neu fforddiadwy.
- Cynnig yr eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig neu gymdeithas dai.
- Gwerthu’r byngalos yn unigol, gan roi cyfle realistig i drigolion lleol a phrynwyr tro cyntaf eu prynu.
- A allai gwerthu’r eiddo yn unigol sicrhau pris uwch yn gyffredinol na’u gwerthu gyda’i gilydd fel un lot.
Wrth gyhoeddi’r ocsiwn, dywedodd Edward Feather, cyfarwyddwr ac arwerthwr yn BTG Eddisons Property Auctions, fod y “pris yn amlwg yn mynd i ddal sylw pobl”.
“Dydy gweld chwe thŷ am £300,000 ddim yn rhywbeth sy’n digwydd bob dydd,” meddai.
“Ond mae’r lleoliad yr un mor drawiadol, oherwydd dydy’r chwe eiddo yma ddim wedi’u gwasgu gyda’i gilydd ar stryd faestrefol.
“Maen nhw mewn hafan dawel mewn pentref yng Nghymru, gyda chefn gwlad trawiadol yn union y tu ôl iddyn nhw.
“Mae’n lleoliad hyfryd, ac mae rhywun sy’n prynu’r lot yn cael cynnig gwahanol iawn i eiddo preswyl arferol mewn ocsiwn.”
Mae Newyddion S4C wedi holi Cyngor Sir Ddinbych a BTG Eddisons Property Auctions am ymateb.