Hafren Dyfrdwy i wario £280,000 ar ôl methiannau 'annerbyniol' yn ymwneud â charthion

Hafren Dyfrdwy

Mae'r cwmni dŵr Hafren Dyfrdwy wedi cytuno i gyflwyno pecyn o fesurau gwerth £280,000 ar ôl i fethiannau "annerbyniol" arwain at ormod o ollyngiadau carthion, yn ôl y rheoleiddiwr Ofwat.

Dywedodd y corff gwarchod fod y cwmni wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau i ddelio'n effeithiol â dŵr gwastraff a charthion.

Mae Hafren Dyfrdwy, sydd yn eiddo i'r cwmni Severn Trent, yn darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth i tua 109,000 o gwsmeriaid yng ngogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru.

Mae'r cwmni wedi cynnig pecyn o fesurau gwerth £280,000 i fynd i'r afael â'r problemau ddaeth i'r amlwg yn ymchwiliad Ofwat, gyda'r gwaith i'w gwblhau erbyn 2030.

Bydd y gost yn cael ei thalu gan y cwmni a'i gyfranddalwyr, ac nid drwy gynyddu biliau cwsmeriaid.

Canfu'r ymchwiliad fod y cwmni wedi methu â darparu systemau draenio digonol ac â delio'n effeithiol â chynnwys ei garthffosydd.

Roedd hefyd wedi methu â sicrhau bod y prosesau a'r systemau priodol ar waith i fodloni'r gofynion, er bod y cwmni bellach wedi mynd i'r afael â'r methiannau hynny.

Daw hyn ar ôl i Hafren Dyfrdwy gael caniatâd i gynyddu biliau cwsmeriaid £54, neu 9%, i gyfartaledd o £635 ym mlwyddyn ariannol 2026-27.

'Annerbyniol'

Dywedodd Lynn Parker, uwch gyfarwyddwr gorfodi Ofwat: "Fe wnaeth ein hymchwiliad ddarganfod fod Hafren Dyfrdwy wedi torri ei rwymedigaethau mewn ffordd annerbyniol, sydd wedi arwain at ormod o ollyngiadau carthion o orlifoedd storm.

"Mae hyn yn annerbyniol ac rydym bellach yn disgwyl i'r cwmni ganolbwyntio ar unioni'r problemau er mwyn i gwsmeriaid allu adennill eu hymddiriedaeth yn eu cwmni dŵr a'r gwasanaeth hanfodol y mae'n ei ddarparu."

Fel rhan o'r mesurau, bydd rhaid i Hafren Dyfrdwy osod dau danc i storio dŵr storm mewn gorsaf bwmpio carthion yn Llansantffraid er mwyn lleihau nifer y gollyngiadau.

Bydd y cwmni hefyd yn gweithio gydag ymddiriedolaeth leol i helpu i greu cynefin gwlyptir ar safle hen wyrcws Llanfyllin.

Dyma'r nawfed achos yn ymchwiliad ehangach Ofwat i ollyngiadau carthion gan gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl y rheoleiddiwr, mae'r ymchwiliad eisoes wedi sicrhau mwy na £300 miliwn mewn pecynnau gorfodi a dirwyon.

Ychwanegodd Ms Parker: "Rydym yn deall bod y cyhoedd eisiau gweld newid mawr.

"Dyna pam rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r ymchwiliad hwn ar draws y sector, sy'n dal cwmnïau fel Hafren Dyfrdwy i gyfrif."

Mae Ofwat wedi cynnig derbyn y pecyn gwerth £280,000, ond bydd ymgynghoriad ar y penderfyniad yn parhau tan 6 Tachwedd.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.