Haf 2026 'yn debygol o fod y cynhesaf ar gofnod'
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ei bod yn fwyfwy tebygol mai haf 2026 fydd y cynhesaf ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw yn 1884.
Mae sawl ton o wres tanbaid wedi taro Cymru a gweddill Prydain yn barod yr haf hwn.
Ar 30 Gorffennaf cafodd statws sychder ei ymestyn i Gymru gyfan wedi cyfnod hir o dywydd poeth a thanau gwyllt.
Mae ystadegau dros dro gan y Swyddfa Dywydd yn dangos bod tymheredd cyfartalog y DU ar gyfer yr haf meteorolegol hyd yn hyn (1 Mehefin i 10 Awst) yn 16.48°C ar hyn o bryd.
Mae hynny 1.88°C yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer 1991-2020.
Er mwyn cyfateb i'r record gyfredol ar gyfer tymheredd cyfartalog haf y DU - sef 16.12°C a osodwyd yn 2025 - byddai angen i weddill mis Awst fod, ar gyfartaledd, 0.21°C yn is na'r cyfartaledd hirdymor (1991-2020) ar gyfer yr haf.
Byddai unrhyw dymheredd uwch na hynny yn gosod record newydd i'r DU.
Y darlun yng Nghymru
Yng Nghymru, mae tymheredd cyfartalog yr haf ar hyn o bryd yn 16.80°C, sef 2.17°C yn uwch na'r cyfartaledd.
Byddai angen i weddill y mis fod 1.40°C yn is na chyfartaledd yr haf er mwyn cyfateb i'r record bresennol.
Mae'n ymddangos bod record y DU ar gyfer yr haf cynhesaf erioed o ran tymheredd uchaf cyfartalog - a osodwyd yn haf 1976 - hefyd dan fygythiad; dim ond 0.72°C yn uwch na chyfartaledd haf 1991-2020 y mae angen i weddill mis Awst fod er mwyn rhagori ar y record honno.
Dywedodd Mike Kendon, uwch-wyddonydd yn y Swyddfa Dywydd: "Mae'n ymddangos yn fwyfwy tebygol y cawn ni haf arall sy'n torri record yn y DU, yn dilyn yr ail fis Mehefin a'r ail fis Gorffennaf cynhesaf erioed, ac wrth i don o wres arall fod ar fin cyrraedd.
"Rydym wedi gweld tymheredd yn cyrraedd 38°C ym mis Mehefin a 35°C ar ddechrau ac ar ddiwedd mis Gorffennaf, ac mae'n debygol y bydd yn cyrraedd y lefel yma eto yn y dyddiau nesaf.
"Mae'n werth cofio i ni hefyd gyrraedd 35°C ar ddiwedd mis Mai, ac i ni ragori'n hawdd ar y record tymheredd uchaf erioed ar gyfer misoedd Mai a Mehefin yn ystod y flwyddyn hon.
"Mae'r ystadegau hyn yn ein hatgoffa'n glir - os oedd angen atgoffa - o'r newidiadau sylweddol rydym yn eu gweld yn hinsawdd y DU... mae cyfnodau hir o dywydd cynnes trwy gydol yr haf wedi cyfrannu at y tymheredd cyfartalog uchel eithriadol rydym wedi'i weld hyd yn hyn."