Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Llŷn

Mynytho

Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn dydd Sadwrn, yn ôl adroddiadau lleol.

Cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru bod ffordd y B4113 ym Mynytho ar gau am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad.

Y gred yw bod gyrrwr y beic modur a fu farw yn dod o'r ardal.

Roedd adroddiadau fod ambiwlans awyr wedi glanio yn y pentref wedi'r ddamwain.

Mae nifer o deyrngedau wedi eu cyhoeddi i'r dyn a fu farw ar gyfryngau cymdeithasol, ond nid yw ei enw wedi ei ryddhau'n swyddogol eto.

Dywedodd yr heddlu bod y ffordd ym Mynytho ar gau am gryn amser wedi'r ddamwain, gyda theithwyr yn cael eu dargyfeirio drwy'r pentref.

Nid oes rhagor o fanylion am y gwrthdrawiad ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.