Sabastian Sawe yn creu hanes yn Llundain drwy redeg marathon o dan ddwy awr
Mae Sabastian Sawe wedi torri’r record byd a chreu hanes ym Marathon Llundain ddydd Sul trwy fod yr athletwr cyntaf i redeg y pellter o dan ddwy awr mewn ras gystadleuol.
Fe groesodd y rhedwr o Kenya y llinell mewn amser o 1 awr 59 munud a 30 eiliad dros y 26.2 milltir.
Fe wnaeth Eliud Kipchoge redeg marathon o dan ddwy awr yn 2019 ond ni chafodd yr amser ei gofnodi’r swyddogol oherwydd roedd o dan amodau oedd wedi eu rheoli ar y pryd.
Roedd Sawe wedi croesi’r hanner ffordd mewn amser o 1:00:29 gan gyflymu yn ystod ail hanner y ras.
Fe wnaeth Yomif Kejelcha, ddaeth yn ail, hefyd redeg o dan ddwy awr mewn amser o 1:59:41
Tigst Assefa wnaeth ennill ras y menywod mewn amser o 2:15:41.
Roedd disgwyl i 59,000 o bobl gymryd rhan yn y ras eleni.
Llun: PA
