Menyw oedd methu cerdded wedi diagnosis sglerosis ymledol i redeg chwe hanner marathon

ITV Cymru
Rhiannon Bending

Mae menyw o Ben-y-bont ar Ogwr a ddysgodd sut i gerdded eto yn dilyn diagnosis o sglerosis ymledol (MS), yn anelu i redeg chwe hanner marathon ar draws Ewrop.

Mae Rhiannon Bending, 36 oed, bellach yn codi ymwybyddiaeth i'r rheiny sy’n byw gyda’r cyflwr sydd yn effeithio ar yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn.

Ym mis Mehefin 2024, fe sylwodd Rhiannon fod rhywbeth o’i le ar ôl iddi ddechrau teimlo’n sâl.

“I ddechrau, roeddwn i’n meddwl mai’r ffliw oedd gyda fi. Roeddwn i wedi blino ac yn dioddef o fertigo ofnadwy dros gyfnod o dair wythnos, aeth y symptomau yn waeth," meddai.

“Roeddwn i’n mynd 'nôl a ‘mlaen at y meddyg. Ges i ddiagnosis o haint yn y glust yn wreiddiol, a ches i wrthfiotigaui’w drin. Roeddwn i’n gobeithio y bydden i’n gwella yn raddol.”

Fis yn ddiweddarach, fe gwympodd Rhiannon yn ei thŷ.

“Wnes i golli teimlad ar un ochr o fy nghorff a fy ngwyneb," dywedodd.

"Doeddwn i ddim yn gallu symud fy nghoesau, ro’n i’n methu siarad, roedd e’n frawychus iawn.”

Treuliodd Rhiannon dair wythnos yn yr ysbyty tra’r oedd y meddygon yn ceisio darganfod beth oedd yn bod arni.

“I ddechrau, roedden nhw’n meddwl fy mod i wedi cael strôc. Wedyn roedden nhw’n meddwl mai tiwmor ar yr ymennydd oedd e, ac wedyn llid yr ymennydd (meningitis)."

Image
Rhiannon Bending

Ddeufis yn ddiweddarach, fe dderbyniodd Rhiannon ddiagnosis o sglerosis ymledol.

Mae sglerosis ymledol yn glefyd awto-imiwn sy’n effeithio ar y system nerfol. Mae tua 6,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda’r cyflwr.

Dywedodd Rhiannon fod ei diagnosis wedi dod fel sioc iddi a'i bod hi wedi bod yn anodd dod i delerau â'r cyflwr.

“Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am MS pan ges i’r diagnosis. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn ddirywiad mwy graddol. Ond roedd fy symptomau wedi dod mor gyflym, bron dros nos.

“Dwi’n berson actif iawn - dwi’n gwneud ymarfer corff bron bob dydd - felly roedd hi’n anodd dygymod â’r hyn oedd wedi digwydd.

“Am gyfnod, doeddwn i ddim yn gallu codi fy nghoesau. Doeddwn i ddim yn gallu cerdded heb help am bedwar mis. Roedd hi’n broses hir iawn, ac roeddwn i wedi colli ymddiriedaeth yn fy nghorff.

“Pan wnes i ddechrau gallu cerdded eto, dywedodd y meddyg bod nhw wedi synnu gweld fi’n gallu gwneud hynny a bod nhw ddim wedi meddwl y baswn i wedi gallu gwella’n llwyr.”

'Codi ymwybyddiaeth'

Flwyddyn wedi iddi dderbyn ei diagnosis, llwyddodd Rhiannon i redeg hanner marathon Caerdydd.

“Wrth orwedd yn yr ysbyty, ro’n i’n benderfynol o allu mynd i redeg eto.”

Cafodd y diagnosis effaith ar Rhiannon yn feddyliol hefyd, gan ei gwneud hi’n bryderus wrth ddechrau ymarfer eto.

“Roeddwn i’n ofni fy nghorff fy hun a doeddwn i ddim yn ymddiried ynddo fe. Doeddwn i ddim yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng y teimlad o fod wedi blino a bod yn sâl.

“Byddwn i’n cael panic attacks ar ochr y ffordd wrth redeg. Roedd rhaid i mi atgoffa fy hun mai dyma sut oedd rhedeg yn teimlo ac nid y symptomau oedd e.”

Wedi cwblhau hanner marathon Caerdydd, mae Rhiannon wedi gosod her newydd i’w hun, sef rhedeg chwe hanner marathon ar draws Ewrop.

“Fe wnaeth cael y diagnosis roi'r hwb i mi wneud y sialens yma a dangos i fy hun nad yw’r diagnosis yn rheoli fy mywyd.

“Pan ges i'r diagnosis, wnes i drïo chwilio am bobl oedd yn dal yn gallu cynnal bywyd actif wrth fyw gyda sglerosis ymledol, ond roedd pob dim yn edrych yn eithaf anobeithiol.

"Dw i am godi cymaint o ymwybyddiaeth â phosib i ddangos i bobl, er bod cael diagnosis yn gallu bod yn ofnus, mae yna dal gobaith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.