Pêl-droed: Hwlffordd yn teithio i'r Barri yng ngemau ail-gyfle Ewrop

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Barir yn erbyn Hwlffordd

Mae’r tymor cyffredin wedi dod i ben ac roedd hi’n benwythnos olaf cyffrous gyda’r Fflint yn osgoi’r cwymp o drwch blewyn gan i’r Bala golli’n hwyr yn erbyn Llansawel, ac felly’n colli eu lle’n y Cymru Premier JD ar ôl 16 mlynedd yn yr uwch gynghrair.

Yn esgyn i’r Cymru Premier JD y tymor nesaf mae Llandudno, Airbus UK, Treffynnon, Trefelin, Cambrian a Rhydaman wrth i’r gynghrair ehangu i 16 clwb.

Mae tri chlwb wedi sicrhau eu lle’n Ewrop ar gyfer y tymor nesaf, sef y ddau ucha’n y tabl, Y Seintiau Newydd a Chei Connah, yn ogystal ag enillwyr Cwpan Cymru, Caernarfon.

Bydd y pedwerydd tocyn Ewropeaidd yn mynd i enillwyr y gemau ail-gyfle, a’r penwythnos yma bydd Y Barri yn croesawu Hwlffordd yn y rownd gyn-derfynol.

Mae hi wedi bod yn dymor rhagorol i’r Barri sydd wedi gorffen y tymor cyffredin yn eu safle uchaf ers saith mlynedd, a chodi Cwpan y Cynghrair am y tro cyntaf ers chwarter canrif.

Gyda chwe buddugoliaeth yn eu naw gêm ddiwethaf, a phum llechen lân, mae’r Dreigiau wedi bod ar rediad cryf, ac mae’r rheolwr Andy Legg yn ffyddiog cyn y gemau ail-gyfle.

"'Dan ni wedi cael tymor da eleni, ennill tlws, gorffen yn drydedd yn y gynghrair ac nawr rydym yn edyrch ymlaen at y gemau ail-gyfle.

"Mi fydd hi'n anodd oherwydd does dim llawer rhwng y timoedd, ond mae gennym ni'r mantais o chwarae cartref ac mae rhaid i ni wneud y mwyaf o hynny."

Mae’r timau wedi cyfarfod deirgwaith y tymor yma, a’r Barri oedd yn fuddugol ar y tri achlysur gyda‘r ymosodwr ifanc Ieuan Owen yn sgorio i’r Dreigiau ym mhob un o’r gemau rheiny.

'Her anodd'

Ond mae’r momentwm yn sicr gan Hwlffordd gan iddyn nhw ennill wyth o’u 10 gêm gynghrair yn y Chwech Isaf wedi’r hollt gan gadw wyth llechen lân.

Does dim gwadu bod gemau Hwlffordd wedi bod yn rhai haws yn yr hanner isaf, gyda’r Adar Gleision yn ennill o 6-0 yn erbyn Llanelli y penwythnos diwethaf, ond bydd yr hyder yn uchel yn y garfan.

Ben Ahmun yw’r prif fygythiad i Hwlffordd gyda’r blaenwr tal wedi sgorio 13 o goliau a chreu naw yn y gynghrair y tymor hwn.

Mae’r Adar Gleision wedi ennill y gemau ail gyfle ddwywaith yn y dair blynedd diwethaf, a bydd Tony Pennock yn gobeithio y gall y profiad hwnnw arwain Hwlffordd i fod y clwb cyntaf erioed i ennill y gemau ail-gyfle deirgwaith.

"Mae'r chwaraewyr wedi bod yn wych yn ystod ail rhan y tymor, a hefyd ar ddiwedd y rhan cyntaf," meddai.

"Roeddem ar waelod y gynghrair ym mus Hydref, felly i droi pethau rownd a pherfformio fel maen nhw... dylai nhw fod yn falch o'u hunain.

"Rydym yn mynd i'r Barri eto, ni wedi colli yna deirgwaith eleni, felly rydym yn gwybod fydd hi'n her anodd.

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ❌✅➖✅❌
Hwlffordd: ✅❌✅✅✅

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.