Elfyn Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd ar ôl dod yn ail yn Rali Islas Canarias
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd ar ôl iddo orffen Rali Islas Canarias ar yr Ynysoedd Dedwydd yn yr ail safle.
Roedd Evans yn y trydydd safle ar ddechrau cymalau olaf y rali ddydd Sul.
Ond fe aeth Oliver Solberg, oedd yn yr ail safle, allan o’r rali ar gymal 17 oedd yn golygu fod Evans yn codi safle.
Roedd y Cymro wedi ennill dau o gymalau’r rali ddydd Sadwrn a hefyd cymal ola’r rali ddydd Sul.
Roedd Evans 19.9 eiliad tu ôl i Sébastien Ogier o Ffrainc wnaeth ennill y rali.
Mae hyn yn golygu fod Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd gyda 101 o bwyntiau, dau yn unig o flaen Takamoto Katsuta o Japan.
Fe fydd y rali nesaf ym Mhortiwgal rhwng 7-10 o Fai.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/2048389594320613487
Llun: X/Elfyn Evans