Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Blaenau Ffestiniog
Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Blaenau Ffestiniog brynhawn Sul.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn apelio am dystion yn dilyn y gwrthdrawiad dau gerbyd ar yr A470 am 13.32 ddydd Sul.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ym Mwlch y Gorddinan, rhwng Dolwyddelan yn Sir Conwy a Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r gyrrwr beic modur 58 oed yn y fan a'r lle.
Mae teulu'r gyrrwr beic modur yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd y ffordd ei chau am sawl awr tra bod y gwasanaethau brys yn ymateb i'r digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans, o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol, ei fod yn awyddus i glywed gan unrhyw dystion.
"Rwy'n ddiolchgar i aelodau o'r cyhoedd ac i'r holl wasanaethau brys a ymatebodd i'r gwrthdrawiad, ac mae fy meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r beiciwr a fu farw'n drasig yn y digwyddiad hwn," meddai.
"Byddem yn hoffi clywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a allai fod â deunydd CCTV neu gamera dashfwrdd o'r ardal yn y cyfnod yn arwain at amser y gwrthdrawiad."