Mwg o danau gwyllt y de yn cyrraed sir yn ne orllewin Lloegr

Tan Llangynidr

Mae un o wasanaethau tân de orllewin Lloegr wedi cynghori pobl i gau eu ffenestri o achos fod mwg o danau yn ne Cymru wedi cyrraedd yr ardal ddydd Llun.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Avon mewn neges y dylai pobl yr ardal gau eu ffenestri a'u drysau o ganlyniada i fwg o "dabau sylweddol" yn ne Cymru.

Mae criwiau tân yn parhau i ymateb i danau gwyllt ger cronfa ddŵr Llangynidr ger Glyn Ebwy fore Llun, yn dilyn gwaith i reoli'r tân dros y penwythnos.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod cyfeiriad y gwynt wedi newid fore Llun, gan achosi i fwg effeithio ar gymunedau ym Mlaenafon, Brynmawr, Pont-y-pŵl a Chasnewydd.

Mae hofrennydd arbenigol y gwasanaeth tân yn dychwelyd i’r ardal fel rhan o’r ymateb i’r digwyddiad.

Bydd yn cynorthwyo diffoddwyr tân, contractwyr a ffermwyr ar y ddaear drwy gyrraedd ardaloedd anodd eu cyrraedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân: "Rydym yn dal i ddisgwyl bod yn y fan a’r lle am rai dyddiau, a byddwn yn parhau i adolygu ein hymateb yn ddyddiol wrth i’r amodau newid.

"Mae’n bosib y bydd Ffordd Llangynidr a ffyrdd lleol eraill ar gau, felly dilynwch y gwyriadau sydd ar waith er mwyn rhoi’r lle sydd ei angen ar y gwasanaethau brys i ymladd y tân, os gwelwch yn dda."

Mae’r gwasanaeth tân yn galw ar bobl i gadw draw o’r ardal ac i osgoi hedfan dronau yno, er mwyn galluogi’r gwasanaethau brys i weithio’n ddiogel.

Dylai pobl hefyd gadw ffenestri a drysau ar gau os yw mwg yn effeithio ar eu hardal, a cheisio cyngor meddygol os oes angen.

Mae’r gwasanaethau brys wedi diolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth wrth i’r gwaith o reoli’r tân barhau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.