Teyrnged gan drefnwyr Sioe Môn i un o 'hoelion wyth' y digwyddiad

E W Hughes
Mae trefnwyr Sioe Môn wedi cyhoeddi teyrnged i un o "hoelion wyth" cymdeithas amaethyddol yr ynys yn dilyn ei farwolaeth.
 
Roedd Emyr Wyn Hughes o Fodffordd  yn gyn-gyfarwyddwr a llywydd ar Gymdeithas Amaethyddol Môn.
 
Roedd hefyd yn gyn-gyfarwyddwr ar gwmni peirianneg sifil William Hughes ar yr ynys.
 
Daaeth y deyrnged ar drothwy Sioe Môn, neu'r Primin fel mae'n cael ei hadnabod yn lleol.
 
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth a dydd Mercher yr wythnos hon.
 
Mewn datganiad nos Sul, dywedodd trefnwyr y Primin: "Yng nghanol yr holl baratodau, trist yw adrodd bod un o hoelion wyth Cymdeithas Amaethyddol Môn wedi ein gadael. 
 
"Roedd Emyr, fel cyn-gyfarwyddwr, llywydd a ffrind, yn ran annatod o'r Sioe a'r safle ac mae ei golled i'w deimlo'n fawr. 
 
"Mae ein diolch yn ddibendraw iddo am ei gyfraniad a'i gymwynas.
 
"Mae meddyliau'r Gymdeithas gyda'i deulu ar yr adeg hon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.