Cwest Llyn Geirionydd: Dyn wedi boddi tra bod ei bartner wedi ei hachub

Nathan Jones

Mae agoriad cwest i farwolaeth dyn 34 oed a fu farw yn Llyn Geirionydd ger Llanrwst wedi clywed bod ei bartner wedi cael ei hachub ar ôl i’r ddau fynd i drafferthion.

Fe wnaeth Nathan Jones, peiriannydd 34 oed o Landudno, foddi yn y llyn ar 19 Gorffennaf.

Dywedodd y crwner, John Gittins, yn ystod agoriad y cwest yn Rhuthun, fod Nathan Jones a’i bartner ar gaiacau chwyddadwy ar y llyn pan aeth y ddau i drafferthion.

Cafodd ei bartner ei thynnu allan o’r llyn gan bobl eraill, tra ei fod yn ymddangos bod Mr Jones wedi boddi.

Ychwanegodd y crwner nad oedd yr un o’r ddau yn gwisgo siacedi achub. Cafodd corff Mr Jones ei ddarganfod gan ddeifwyr yr heddlu.

Fe wnaeth Mr Gittins atgoffa pobl o bwysigrwydd gwisgo siacedi achub tra’n gwneud unrhyw weithgareddau yn y dŵr.

“Yn anffodus, dyma’r ail farwolaeth yn yr un lleoliad o fewn cyfnod byr, yn ogystal â marwolaeth bellach a gafodd ei hadrodd i mi o ddigwyddiad arall, yr wyf yn credu ei fod hefyd yn ymwneud â chaiac yn ardal Betws-y-Coed.

“Rwyf wedi cael gwybod bod rhywbeth yn gyffredin i’r holl farwolaethau, yn enwedig y rhai ar Lyn Geirionydd, lle nad oedd y rhai a fu farw yn gwisgo siacedi achub.

“Yn amlwg, mae hynny’n bryder i mi fel crwner ac yn ein hatgoffa o bwysigrwydd, wrth gynnal gweithgareddau dŵr, bod gan bobl y cyfarpar priodol.”

Cafodd y cwest ei ohirio.

Daw marwolaeth Mr Jones wedi i ddyn 21 oed foddi yn Llyn Geirionydd fis diwethaf hefyd.

Y gred yw bod Rowan Booth, 21 oed, o Brestatyn, wedi disgyn i mewn i Lyn Geirionydd tra’n ceisio sefyll i fyny ar ei badlfwrdd.

Clywodd y cwest yn Rhuthun nad oedd yn debygol bod Mr Booth yn gwisgo offer diogelwch er mwyn ei helpu i arnofio pan aeth i mewn i’r dŵr.

Teyrnged i Nathan Jones

Mewn teyrnged ar-lein wedi marwolaeth Nathan Jones, dywedodd ei chwaer, Lindsey Jones, ei fod yn “ddamwain drasig”.

“Gyda’r tristwch a’r torcalon dwysaf, rwy’n cyhoeddi fod Nathan Jones wedi marw yn llawer rhy ifanc, yn 34 oed,” meddai.

“Roedd yn enaid cariadus, gofalgar a charedig, a byddai’n gwneud unrhyw beth dros unrhyw un. 

“Fe gafodd ei adenydd nos Sul mewn damwain drasig yn Llyn Geirionydd. Fe syrthiodd i’r dŵr ac ni ddaeth yn ôl allan.

“Fel y gallwch chi i gyd ddychmygu, rydw i, y teulu a’i ffrindiau i gyd mewn poen mawr. Felly, rwy’n gofyn i chi beidio â chysylltu i ofyn cwestiynau.

“Roedd Nathan yn caru pawb yn ei fywyd, a doedd gan neb air drwg i’w ddweud amdano. Roedd yn ddoniol, yn allblyg ac yn ddireidus iawn hefyd. Byddwn ni’n ei golli’n fwy nag y gall geiriau eu mynegi.

“Roedd Nathan yn dad cariadus i Theo, Noah ac Eva, ac yn fab ac yn ewythr cariadus. Roedd ganddo galon o aur. Cysga’n dawel, frawd bach. Byddaf yn dy garu am byth, nes y byddwn ni’n cyfarfod eto.

“Fydd Mam, Dad, fi, Lou na dy ffrindiau byth yn rhoi’r gorau i siarad amdanat ti! Bydd y cof amdanat ti’n fyw am byth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.