Gyrfa bêl-droed ddisglair Jess Fishlock yn dirwyn i ben

Fishlock

Mae gyrfa un o fawrion pêl-droed Cymru, Jess Fishlock, wedi dod i ben ar ôl iddi chwarae ei gêm olaf dros ei chlwb, Seattle Reign.

Colli o 1-0 yn erbyn Gotham FC wnaeth tîm Fishlock yn rownd yr wyth olaf gemau ail gyfle Cynghrair Pêl-droed Cenedlaethol y Merched (NWSL) yn yr Unol Daleithiau ddydd Sul.

Wrth edrych yn ôl ar ei gyrfa, dywedodd Fishlock fod Seattle wedi dod yn "ail gartref" iddi.

Fe ymunodd â'r clwb yn 2013 er mwyn chwarae mewn cynghrair newydd. Mewn llythyr yn rhoi teyrnged i'r cefnogwyr, dywedodd fod sawl uchafbwynt wedi bod dros y blynyddoedd.

"Fe wnaethoch chi wneud yr eiliadau mawr hyd yn oed yn fwy arbennig, ac fe wnaethoch chi ein hysbrydoli ni i fod yn well nag oedden ni yr wythnos flaenorol.”

Ychwanegodd ei bod wedi datblygu fel chwaraewraig ac fel person yn ystod ei chyfnod gyda'r clwb.

“Fe wnaethoch chi hefyd fy helpu i dyfu fel person. Fe ddes i yma fel chwaraewraig oedd yn llawn angerdd, ac fe welsoch chi fi’n datblygu’n arweinydd.

“Ar hyd y ffordd, fe ddysgais i beth mae bod yn rhan o gymuned yn ei olygu go iawn, ac mae wedi bod yn fraint dod i adnabod y gymuned hon.

“Fe wnaeth Seattle fy nghroesawu yn union fel yr ydw i. Dyma hefyd lle wnes i gwrdd â fy ngwraig.

“Fe roddodd y ddinas hon fy ngyrfa i mi, ac fe roddodd hi fy nheulu i mi hefyd.”

Gyrfa ddisglair

Yn 2002 y dechreuodd Fishlock, sy'n 39 oed, ei gyrfa broffesiynol gyda chlwb Caerdydd. Ers hynny, mae wedi chwarae mewn wyth gwlad wahanol.

Mae wedi ennill medalau Cynghrair y Pencampwyr gyda FFC Frankfurt ac Olympique Lyonnais.

Enillodd hefyd dair tarian NWSL yn ystod ei 14 tymor gyda Seattle. Ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd mai'r tymor hwn fyddai ei thymor olaf fel chwaraewraig.

Fe wnaeth hi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref 2025 ar ôl sgorio 48 gôl mewn 166 o gemau dros Gymru - y ddau yn recordiau cenedlaethol.

Dywedodd Fishlock ar ôl y gêm yn erbyn Gotham ddydd Sul ei bod wedi "caru'r flwyddyn ddiwethaf gyda'r grŵp yma. Maen nhw wedi rhoi cymaint i mi, ac nid dim ond ar y cae."

Wrth drafod ei gyrfa gyda'r BBC, dywedodd ei bod yn anodd dewis un atgof oedd yn sefyll allan yn fwy na'r gweddill.

“Yr unig beth dwi’n ei wybod yw mai’r hyn dwi fwyaf balch ohono, o waelod fy nghalon, yw fy mod i wedi aros gyda Chymru. Roedd hynny’n anodd am 20 mlynedd, ond fyddwn i ddim wedi gwneud pethau’n wahanol. Fe arhosais i gyda Seattle Reign am 14 mlynedd hefyd, a fyddwn i ddim wedi gwneud hynny’n wahanol chwaith.

“Achos i fi, pan dach chi’n ennill gyda’ch pobl eich hun – y bobl dach chi wedi bod drwy gyfnodau anodd gyda nhw, y bobl dach chi wedi colli gyda nhw, y bobl dach chi wedi methu gyda nhw – pan dach chi’n ennill gyda’ch pobl eich hun, does dim teimlad gwell yn y byd.”

Bydd Fishlock nawr yn ymuno â Rhian Wilkinson fel rhan o dîm hyfforddi Cymru ar gyfer y gemau ail gyfle.

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.