Y Gyllideb: Y Canghellor yn addo 'lle i anadlu' i aelwydydd a busnesau
Mae John Healey wedi addo rhoi "lle i anadlu" i aelwydydd a busnesau yng nghanol yr argyfwng costau byw, wrth iddo baratoi i gyflwyno ei gyllideb gyntaf.
Mae disgwyl i'r Canghellor gyhoeddi y bydd yn rhewi'r dreth ar danwydd, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer diwygiadau yn yr hir-dymor er mwyn ceisio sichrau bod y Deyrnas Unedig yn medru ymdopi yn wyneb datblygiadau annisgwyl yn rhyngwladol.
Bydd taliadau sefydlog ar filiau nwy - sy’n talu am y gost o ddosbarthu i gartrefi a busnesau - yn cael eu dileu o 2027 ymlaen, “neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny”, yn ôl y Trysorlys.
Mewn neges fideo cyn iddo gyflwyno ei gyllideb ddydd Mercher, mynnodd y Canghellor y bydd Llywodraeth y DU yn mynd ati i leddfu costau byw mewn modd "cyfrifol " drwy lynu at egwyddorion ariannol y Blaid Lafur.
Dywedodd: “Lle i anadlu heddiw a gobaith newydd ar gyfer y dyfodol. Dyna fydd yn y Gyllideb.
“Mae'r byd yn lle hynod o ansicr. Mae'r gwrthdaro dramor yn arwain at brisiau ynni uwch yma - gan roi pwysau cynyddol ar deuluoedd, busnesau ac ar ein harian cyhoeddus.
“Ond mae economi Prydain yn dangos gwytnwch: mae cynnydd ym maes buddsoddi ac mae'r maes cynhyrchu yn tyfu.”
Ychwanegodd Mr Healey: “Nod y Gyllideb hon yw rhoi cyfle i aelwydydd anadlu, darparu cefnogaeth wedi ei thargedu i fusnesau a gweithwyr hunangyflogedig, a dechrau ar y gwaith hir-dymor o sichrau bod costau ynni yn gostwng.”
Mae'r Canghellor yn wynebu sefyllfa economaidd anodd, sydd wedi gwaethygu oherwydd costau benthyca uchel a'r rhyfeloedd yn Wcráin ac Iran.
Mae'r pwysau ar y pwrs cyhoeddus yn golygu y bydd gallu'r Canghellor i gyhoeddi mesurau hael yn y Gyllideb yn gyfyngedig.
Does dim llawer o fanylion wedi eu datgelu cyn y Gyllideb ddydd Mercher.
Ond mae Mr Healey wedi addo glynu wrth y rheolau cyllidol a gafodd eu gosod gan ei ragflaenydd, Rachel Reeves.
Mae'r rhain yn ei gwneud yhi'n ofynnol i wariant o ddydd i ddydd gael ei ariannu drwy drethi yn hytrach na benthyca erbyn 2029/30.
Treth ar danwydd
Ond mae'n ymddangos y bydd y newidiadau i leddfu costau byw yn flaenllaw yn y Gyllideb.
Ac mae disgwyl i Mr Healey gefnu ar y cynllun i gynyddu'r dreth ar danwydd a oedd i fod i ddod i rym fis Ionawr, gan rewi'r dreth ar 52c y litr.
Nid yw cyfradd y dreth wedi codi ers 2011.
Mae'r Prif Weinidog Andy Burnham hefyd wedi gofyn i'r Canghellor ystyried dileu'r tâl sefydlog dyddiol y mae cwsmeriaid yn ei dalu am gyflenwad nwy, waeth faint o nwy maen nhw'n ei ddefnyddio.
Mae Mr Burnham hefyd eisiau torri'r cysylltiad rhwng prisiau nwy cyfanwerthol a phrisiau trydan.
Yn ôl y Ceidwadwyr, mae'r Canghellor yn mynd i osgoi penderfyniadau anodd.
Dywedodd prif ysgrifennydd cysgodol y Trysorlys, Richard Fuller: “Mae cyfrifon cyhoeddus Prydain ar y dibyn. Mae gormod o ofn ar Lafur i nweud penderfyniadau mawr.
“Dim ond y Ceidwadwyr sydd â chynllun i gefnogi gwaith caled, torri ar wariant, a thorri trethi.”
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae angen i'r Canghellor fynd gam ymhellach drwy dorri'r dreth ar danwydd a chostau eraill.
Felly, yn ogystal â'r cynlluniau i geisio mynd i'r afael â chostau byw, beth arall allwn ni ei ddisgwyl yng Nghyllideb John Healey?
Treth ar fanciau?
Mae'r Canghellor yn ystyried cynyddu'r dreth ychwanegol ar elw banciau o 3% i 8%, gan wrthdroi toriad treth a gyflwynwyd i'r sector gan y cyn-Ganghellor Jeremy Hunt.
Dywedodd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), sy'n cefnogi'r newid, y byddai cynyddu'r dreth ar "elw enfawr" banciau yn codi £2.25 biliwn y flwyddyn.
Ond mae cynrychiolwyr y diwydiant ariannol, sydd wedi'i leoli'n bennaf yn Llundain, wedi rhybuddio y byddai'r newid yn rhwystro buddsoddiad yn y DU.
Bydd mwy na £600 miliwn yn cael ei neilltuo i amrywiaeth o brosiectau i ddatblygu deallusrwydd artiffisial a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n ddiogel.
Bydd hyn yn cynnwys £165 miliwn ar gyfer menter genedlaethol ar fioddiogelwch (biosecurity) a deallusrwydd artiffisial, a £120 miliwn ychwanegol i'r Sefydliad Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial.
Bydd £60 miliwn hefyd yn cael ei neilltuo ar gyfer tarian seiber genedlaethol, a fydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i amddiffyn rhag hacwyr.
Amddiffyn
Fe ymddiswyddodd Mr Healey o'i swydd fel Ysgrifennydd Amddiffyn yn llywodraeth Syr Keir Starmer, gan ddweud nad oedd digon o arian yn cael ei neilltuo i'r lluoedd arfog.
Roedd yn dadlau bod angen i wariant ar amddiffyn gyrraedd 3% o gynnyrch domestig gros (GDP) y DU erbyn 2030.
Pan oedd yn Brif Weinidog, addawodd Syr Keir Starmer £15 biliwn ychwanegol i sector amddiffyn y DU.
Ond dim ond £10.3 biliwn a gafodd ei neilltuo, gan adael bwlch o £4.7 biliwn y mae Mr Healey wedi addo ei lenwi.
Byddai'r arian ychwanegol yn golygu bod gwariant y Llywodraeth ar amddiffyn yn codi i 2.7% o'r economi erbyn 2027.
Lloegr yn unig
Bydd £285 miliwn cychwynnol yn cael ei neilltuo fel rhan o gynllun i roi mwy o arian a phwerau i feiri ac arweinwyr rhanbarthol yn Lloegr fuddsoddi mewn prosiectau yn eu hardaloedd.
Bydd £432 miliwn ychwanegol hefyd yn cael ei neilltuo i raglen sy'n helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd yn Lloegr i ddod o hyd i lety.
Bydd mwy na £1 biliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy.
Bydd cronfa o £7 miliwn hefyd ar gael i gynnal astudiaeth i'r posibilrwydd o wneud cais i gynnal y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yng ngogledd Lloegr yn y dyfodol.
Mae'n bosib y bydd Llywodraeth Cymru yn cael rhagor o arian yn ei chyllideb os bydd gwariant ychwanegol yn Lloegr mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru.
Lluniau: PA