Gwynedd: Sêl bendith i wneud y Gymraeg yn brif iaith addysg pob ysgol yn y sir

Gwynedd / Dewi Jones

Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid gwneud y Gymraeg y brif iaith ym mhob ysgol yn y sir.

Roedd yr awdurdod yn cynnal yr adolygiad mwyaf o'i bolisi addysg iaith Gymraeg mewn mwy na 40 o flynyddoedd.

Fel rhan o'r polisi newydd, byddai ad-drefniad yn gweld y Gymraeg yn dod yn brif iaith addysg i holl blant yn ysgolion y sir, gan gynnwys ysgolion oedd yn rhai prif ffrwd Saesneg yn flaenorol.

Mae’r polisi newydd yn amlinellu y bydd “o leiaf 80% o addysg, asesu a gweithgareddau allgyrsiol pob disgybl drwy gyfrwng y Gymraeg,” mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn y sir.

Mewn cyfarfod o gabinet Cyngor Gwynedd ddydd Mawrth, dywedodd yr aelod dros addysg, y Cynghorydd Dewi Jones: “Mae’n rhaid i ni argyhoeddi pobl am werth y Gymraeg a sut mae’n agor drysau yn hytrach na’u cau.

“Mae cenedlaethau di gweithio’n ddiflino i gryfhau’r iaith, i adeiladu’r system addysg Gymraeg sydd gennym ni heddiw, ac i sicrhau bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael y cyfle i fyw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Adeiladu hyder, adeiladu cyfleodd ac adeiladu dyfodol cryfach i’r Gymraeg. Nid rhannu, nid cyfyngu, nid culhau, ac yn sicr nid defnyddio’r Gymraeg fel pêl droed wleidyddol.

Image
Y Cynghorydd Dewi Jones
Y Cynghorydd Dewi Jones

“Mae lle i bawb yn stori’r Gymraeg felly dewch i ni uno tu ôl i’r iaith.

“Dewch i'n sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith byw, ffyniannus a hyderus, a dewch i agor drysau i fyd o gyfleoedd, brofiadau a manteision fydd yn aros gyda'n pobl ifanc am weddill eu bywydau.”

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan: “Dwi’n falch bod yr aelod y cabinet yn siarad gyda chymaint o arddeliad ac o’r galon, dwi’n meddwl yn mynegi teimladau ni i gyd sydd yn y stafell yma a thu hwnt.”

Trosi

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Rawlinson sut y byddai ysgolion ffrwd Saesneg yn cael eu cefnogi wrth wneud y newid.

Dywedodd Siwan Llwyd Roberts, Pennaeth y Gyfundrefn Addysg Drochi, y byddai ysgolion yn cychwyn o waelodlin gwahanol a byddai ysgolion “trosiannol”, sef Ysgol Ein Harglwyddes ac Ysgol Friars ym Mangor, ac Ysgol Uwchradd Tywyn, yn derbyn cefnogaeth ychwanegol.

Dywedodd bod yna diwtor gweithlu eisoes yn gweithio yn yr ysgolion er mwyn cefnogi staff gyda’r Gymraeg.

“Allwch chi ddim cymharu ysgol, drefol dinesig hefo ysgol ym mhen draw Pen Llŷn,” meddai.

“Un o’r pethau pwysicaf am y polisi ydi cefnogaeth y gyfundrefn drochi, sydd bellach wedi sicrhau bod 'na fynediad ati hi o Fangor i lawr i Dywyn, ac mae’r mynediad hwnnw yn fynediad agored.

"Mae’r niferoedd yn cael eu cyfeirio’n gyson uchel ac yn gyson da ni’n medru adrodd ar lwyddiant rheini.”

Fe bleidleisiodd aelodau yn unfrydol o blaid mabwysiadu’r cynllun, a fydd yn dod i rym fis Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.