Gwynedd: Cyngor yn datgan cefnogaeth am gynllun tai ar amod fod tenantiaid yn siarad Cymraeg
Mae cyngor cymunedol yng Ngwynedd yn dweud y byddai’n cefnogi cais am ddatblygiad tai fforddiadwy newydd ar yr amod fod tenantiaid y cartrefi arfaethedig yn medru’r Gymraeg.
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais cynllunio gan gwmni Williams Homes (Bala) Ltd ar ran Grŵp Cynefin i godi hyd at 15 o gartrefi fforddiadwy mewn stad newydd ger Llys yr Eifl, yn Nhrefor.
Mae Cyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn wedi datgan eu cefnogaeth i’r cynllun, gan annog Cyngor Gwynedd i fod “yn wirioneddol flaengar ac arloesol” drwy osod yr amod ar y datblygiad.
Mae’r Cyngor yn dweud y byddai’r amod yn seiliedig ar “farn gyfreithiol” a dderbynwyd gan Gomisiynydd yr Iaith, oedd yn datgan "na fyddai’n anghyfreithlon gwneud ‘medru’r Gymraeg’ yn amod gosod tai cymdeithasol".
Mae'r cais yn cynnwys amryw o dai gwahanol, gan gynnwys byngalos.
Mae adran gynllunio Cyngor Gwynedd wedi argymell caniatáu’r cais cyn cyfarfod y pwyllgor cynllunio ar 2 Mawrth.
'Cyfle euraidd'
Dywedodd cadeirydd a chlerc dros dro’r Cyngor, Geraint Jones, ar ran y cyngor: “Mae Cyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn yn dymuno datgan yn unfrydol nad oes ganddo wrthwynebiad i’r cais hwn per se, ond fod hynny yn amodol.
“Dyma, felly, yn yr achos arbennig hwn, gyfle euraidd i fod yn wirioneddol flaengar ac arloesol trwy fod yr awdurdod cynllunio cyntaf yng Nghymru i fentro gosod amod iaith ar stad newydd o dai cymdeithasol, a hynny yng nghalon y fro Gymraeg.
“Byddai’n glod ac yn gynsail i’r Cyngor ei hun ac yn arweiniad goleuedig a hirddisgwyliedig i weddill Cymru.
"Gall hyn roi cychwyn pendant a chadarn i warchod enaid ein cenedl a’r ychydig froydd bregus sydd weddill.”
Mae’r cyngor hefyd wedi annog i gynllunwyr yng Ngwynedd ohirio’r penderfyniad dros y datblygiad “hyd nes y ceir canlyniad pendant i’r drafodaeth ynglŷn â’r hyn a gyflwynwyd gan y Comisiynydd Iaith i Gyngor Gwynedd a’r Cymdeithasau Tai.
“Mae’n gyfle rhy bwysig i’w golli ac mae’n hwyr bryd i ni gamu ymlaen yn llawn hyder. Mae’n gyfle i wneud ‘cadernid Gwynedd’ yn gadernid gwirioneddol.
'Cynaliadwyedd'
Wrth ymateb, dywedodd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg ei fod yn "awyddus i weld polisïau sy’n cyfrannu at gryfhau’r cymunedau hyn."
“Mae cynaliadwyedd cymunedau â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn hanfodol i ddyfodol yr iaith.
“Yn dilyn derbyn barn gyfreithiol ynglŷn â Deddf Tai 1996, ein dealltwriaeth yw y gellir ystyried sgiliau Cymraeg fel rhan o bolisi gosod tai."
Fe ychwanegodd nad oedd "unrhyw ystyriaeth ieithyddol yn drech na’r gofynion statudol sydd wedi’u nodi yn y Ddeddf."
“Ar y pryd fe wnaethom rannu ein dealltwriaeth gyfreithiol o’r mater â’r ymholydd, yn ogystal â Chyngor Gwynedd a’r gymdeithas dai berthnasol.
"Fe wnaethom bwysleisio bod y cyngor cyfreithiol yn dweud y gellid cynnwys amod ieithyddol fel rhan o bolisi, ond nad yw hynny uwchlaw gofynion deddfwriaethol eraill."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Gallwn gadarnhau fod cais i godi 15 tŷ fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig yn Nhrefor wedi ei dderbyn gan Wasanaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd.
"Mae’r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor yn rhoi ystyriaeth i’r holl sylwadau cynllunio sydd wedi eu derbyn yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus a bydd y mater yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Cynllunio dydd Llun 2 Mawrth.”
Lluniau: Cyngor Gwynedd