Gŵyl yn amddiffyn penderfyniad i wahodd y rapiwr dadleuol Kanye West

Kanye

Bydd tocynnau Gŵyl Wireless yn mynd ar werth yn ddiweddarach wrth i hyrwyddwr yr ŵyl amddiffyn eu penderfyniad i gynnwys y rapiwr Kanye West ar restr yr artistiaid fydd yn perfformio yno yr haf hwn.

Ers cyhoeddi'r arlwy, mae galwadau wedi dod i wahardd y cerddor rhag cael dod i mewn i'r DU oherwydd ei agweddau gwrth-semitig yn y gorffennol.

Y rapiwr, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Ye, fydd ar frig y rhestr o berfformwyr am dair noson yn ystod yr ŵyl ym Mharc Finsbury yn Llundain ym mis Gorffennaf.

Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi galw’r penderfyniad i'w gynnwys yn yr ŵyl fel un “pryderus iawn”, tra bod noddwyr wedi tynnu eu cefnogaeth i’r ŵyl yn ôl oherwydd y penderfyniad.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood wedi wynebu galwadau gan wleidyddion a’r Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-Semitiaeth i wahardd Kanye West rhag dod i’r DU, gan ddweud na fyddai ei bresenoldeb yn “ffafriol i les y cyhoedd”.

Adolygiad

Y gred yw bod caniatâd West i ddod i mewn i’r DU yn cael ei adolygu gan weinidogion ar hyn o bryd.

Disgrifiodd Melvin Benn, rheolwr gyfarwyddwr Festival Republic, sy'n hyrwyddo Gŵyl Wireless, ei hun fel "gwrth-ffasgwr ymroddedig iawn" a "pherson goddefgar".

Mewn datganiad, ychwanegodd Mr Benn: "Mae'r hyn y mae Ye wedi'i ddweud yn y gorffennol am Iddewon a Hitler yr un mor ffiaidd i mi ag y mae i'r gymuned Iddewig, y Prif Weinidog ac eraill sydd wedi gwneud sylwadau ac - gan ei gymryd ar ei air - i Ye nawr hefyd.

"Mae cerddoriaeth Ye yn cael ei chwarae ar orsafoedd radio masnachol yn y wlad hon. Mae ar gael trwy ffrydiau byw a lawrlwythiadau yn y wlad hon heb sylwadau na ffyrnigrwydd gan unrhyw un ac mae ganddo hawl gyfreithiol i ddod i'r wlad ac i berfformio yn y wlad hon.

"Nid ydym yn rhoi llwyfan iddo i ganmol barn o unrhyw natur, dim ond i berfformio'r caneuon sy'n cael eu chwarae ar hyn o bryd ar yr orsafoedd radio yn ein gwlad a'r llwyfannau ffrydio yn ein gwlad ac sy'n cael eu gwrando a'u mwynhau gan filiynau."

'Gwneud y peth gweddus'

Dywedodd llywydd Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain ei bod hi’n “bryd i Wireless wneud y peth gweddus a diddymu gwahoddiad na ddylent erioed fod wedi’i gynnig”.

Wrth ymateb i ddatganiad Mr Benn, dywedodd Phil Rosenberg: “Ar ôl wythnos o Ŵyl Wireless yn osgoi unrhyw gyfryngau, ni fydd y datganiad hwn yn tawelu meddyliau llawer o fewn y cymunedau Iddewig neu gymunedau eraill y cyfeiriwyd sarhad Kanye West yn eu herbyn dros gyfnod llawer hirach na’i ymddiheuriad mwy diweddar.

“Mae’r ddwy ffaith allweddol yn parhau bod Kanye West wedi cyhoeddi ei hun yn Natsi, a bod Wireless yn debygol o elwa’n ariannol o’i berfformiad.

“Yn wir, rydym yn nodi mai pryder oedd ymateb cychwynnol Mr Benn i’r syniad o wahodd Kanye West. Mae’n parhau i fod yn bryder i ni.

“Efallai bod Kanye West ar y llwybr i iechyd ac iachâd. Rydym yn mawr obeithio ei fod. Ond nid y lle i brofi hyn dros dri diwrnod ar brif lwyfan Wireless.”

Llun: Douliery Olivier/PA Images

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.