Gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio gwymon yn lle plastig i becynnu bwyd
Gallai bwyd gael ei lapio mewn pecynnau wedi eu gwneud o wymon yn y dyfodol yn lle plastig artiffisial, yn ôl ymchwil newydd.
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi datblygu deunydd allan o wymon i mewn i blastig sy’n dirywio’n fiolegol (neu’n fioddiraddadwy/biodegradable)
Gall hyn drawsnewid y diwyidiant pecynnau bwyd sy’n ddibynnol ar blastig sy’n cael eu gwneud yn bennaf allan o danwydd ffosil ac sy’n niweidiol i’r amgylchedd.
Yn ôl Prifysgol Aberystwyth, yn 2022, roedd pecynnau plastig yn cyfrif am ychydig yn llai na thraean o’r 400 miliwn o dunellau o blastig a gynhyrchwyd ledled y byd.
Mae 15 biliwn kg o wastraff plastig yn cyrraedd yr amgylchedd morol bob blwyddyn meddai’r gwyddonwyr.
Mewn papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Algal Research, mae gwyddonwyr o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) wedi cyfuno alginad, echdynnyn o wymon, â chyfansoddion biolegol eraill i gryfhau’r plastig a’i wneud yn fwy hyblyg er mwyn gallu ei ddefnyddio ar gyfer lapio bwyd.
Mae’r echdyniadau yn cael eu troi’n bowdr a gymysgir â dŵr, a’u cynhesu ac yna eu moldio i greu ffilm.
Mae’r gwyddonwyr wedi profi’r plastigau cynaliadwy newydd am eu cryfder, eu rhinweddau gwrthfacterol, eu gallu i wrthsefyll dŵr a nodweddion eraill.
Dywedodd Dr Jessica Adams o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’n newyddion da i’r blaned fod gwymon sy’n cael ei dyfu yn y DU yn gallu cael ei ddefnyddio i greu plastigau mwy cynaliadwy. Mae gan wymon gymaint o nodweddion arbennig ac unigryw, yn bennaf oherwydd bod ffilmiau a gynhyrchir o alginad yn hollol fioddiraddadwy, sy’n golygu bod hwn yn gynnyrch cwbl gylchol.
“Gellir defnyddio gwymon i ffurfio haenau tenau a thryloyw, tebyg i blastig sydd â llawer o nodweddion gwerthfawr, gan eu gwneud yn ddewis rhagorol yn lle deunyddiau lapio bwyd eraill.”
Llun: Prifysgol Aberystwyth