Gwrthdaro'r Dwyrain Canol: America ac Iran yn trafod ym Mhacistan

Llun: Reuters
Iran

Mae'r trafodaethau rhwng America ac Iran wedi dechrau ym mhrifddinas Pacistan, Islamabad. 

Yn ôl adroddiadau oddi yno, mae'n nhw'n trafod yn uniongyrchol ond mae swyddogion o Bacistan hefyd yn rhan o'r trafodaethau. 

Yn gynharach fe fu swyddogion o'r ddwy wlad yn cyfarfod â Phrif Weinidog Pacistan Shehbaz Sharif. 

Wrth i'r trafodaethau gael eu cynnal, cyhoeddodd Arlywydd America Donald Trump neges ar ei gyfrwng Truth Social yn hawlio fod Iran yn "colli'n drwm."  

Roedd Iran eisoes wedi rhybuddio y gallai'r trafodaethau gael eu canslo os na chaiff amodau Tehran eu derbyn.  

Dirprwy Arlywydd America JD Vance sy'n cynrychioli'r Americanwyr yn y cyfarfod. 

Mae cynrychiolydd Iran yn y trafodaethau, Mohammad Bagher Ghalibaf eisoes wedi dweud nad oes modd ymddiried yn America. 

Mae Iran yn anfodlon bod Israel yn parhau i ymosod ar dargedau yn Libanus gan ddadlau fod hynny'n torri amodau'r caodoediad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth. 

On yn ôl yr Americanwyr, doedd Libanus ddim yn rhan o'r cadoediad.

Yn ol Gweinyddiaeth Iechyd Libanus, cafodd tri o bobl eu lladd yn ystod ymosodiad diweddar gan Israel yn nhref Zefta yn ne'r wlad. 

Ac maen nhw'n dweud fod nifer y marwolaethau wedi ymosodiad Israel yn ne Libanus ddydd Mercher wedi codi i 357 gyda 1,223 wedi eu hanafu.  

Roedd ailagor Culfor Hormuz, sy'n llwybr allweddol i gludo tanwydd ac olew yn rhan allweddol o'r cadoediad ddydd Mawrth. Ond prin yw'r llongau sydd wedi cael yr hawl i hwylio drwy'r culfor gan Iran. Ac mae hynny wedi cynddeiriogi'r Arlywydd Trump. 

 

 

   

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.