Gwesty oedd wrth galon ffrae ceiswyr lloches yn cadarnhau eu bod nhw’n cau

S4C

Mae gwesty yn Llanelli oedd wrth galon ffrae danbaid am gartrefu ceiswyr lloches wedi cadarnhau eu bod nhw’n cau yn syth.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwesty Parc y Strade wrth Newyddion S4C: “Mae’n flin gennym roi gwybod ein bod ni wedi gorfod cau ein drysau a rhoi’r gorau i fasnachu yn syth.”

Wrth ymddiheuro i gwsmeriaid fe ddywedodd y llefarydd ar ran y gwesty nad oedd unrhyw amserlen ar gyfer digolledu’r rheini oedd eisoes wedi archebu i aros yno.

Roedd defnydd y gwesty yn destun dadlau sylweddol yn 2023 oherwydd cynlluniau i osod cannoedd o geiswyr lloches yno. 

Fe ddaeth cynlluniau'r Swyddfa Gartref i roi lloches i 241 o bobl yng Ngwesty Parc y Strade i ben yn dilyn misoedd o brotestiadau a gwrthwynebiad gan gyngor Sir Caerfyrddin.

Fe gafodd nifer o bobl eu harestio yn sgil y protestiadau, gyda'r gwaith plismona yn costio mwy na £1m i Heddlu Dyfed-Powys.

Daeth cadarnhad ym mis Mai 2024 y byddai'r gwesty yn ail-agor.

Dywedodd y cynghorydd annibynnol Steven Williams, a enillodd isetholiad ar ôl ymgyrchu yn erbyn newid defnydd y gwesty, bod y newyddion y gallai gau yn peri “pryder mawr” iddo.

Dywedodd fore Mawrth ei fod wedi siarad ag aelodau o staff “ac nad oes llawer o sicrwydd wedi ei roi iddyn nhw beth sy’n digwydd nesaf”.

“Maen nhw’n bobl leol sy’n gweithio yn galed ac sydd wedi ailadeiladu enw da’r gwesty,” meddai.

“Unwaith eto, mae staff yn wynebu colli eu swyddi heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain.

“Fy mhrif flaenoriaeth yw’r gweithlu a’u teuluoedd. Ar hyn o bryd mae llawer o gwestiynau a phobl bryderus. Mae Llanelli yn haeddu atebion - a gweithredu.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â’r perchnogion am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.