Gwerthu modrwy ddiamwnt 'unigryw' un o oroeswyr enwocaf y Titanic

Y Titanic, a modrwy mewn cylch

Mae disgwyl i fodrwy ddiamwnt “unigryw” oedd ar fys un o’r teithwyr a oroesodd drychineb y Titanic gael ei gwerthu am £80,000 mewn arwerthiant.

Roedd Lucy, y Foneddiges Duff-Gordon, yn gwisgo’r tlws tra ar fwrdd y llong enwog, a suddodd yng Nghefnfor yr Iwerydd yn ystod ei mordaith gyntaf ym mis Ebrill 1912.

Roedd y Foneddiges, oedd yn teithio gyda’i gŵr Syr Cosmo Duff-Gordon, yn gynllunydd ffasiwn byd enwog ar y pryd ac ymhlith goroeswyr mwyaf adnabyddus y drychineb a laddodd tua 1,500 o bobl.

Mae’r fodrwy wedi bod yn y teulu ers hynny ac yn cael ei gwerthu gan ddisgynnydd uniongyrchol i’r Foneddiges. Wnaeth yr un darn o emwaith arall o bwys oedd gyda hi ar y Titanic oroesi.

Bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal yn Devizes yn Wiltshire ddydd Sadwrn.

'Bron yn ddigynsail'

Dywedodd yr arwerthwr bod hwn “wir yn eitem unigryw” gafodd ei ddefnyddio gan “un o deithwyr enwocaf y Titanic.”

“Peth arbennig o brin ydy gweld gemwaith sydd â chysylltiad â goroeswyr y Titanic ar y farchnad, ond mae hi bron yn ddigynsail i weld eitem mor bersonol gan deithiwr mor adnabyddus yn cael ei werthu mewn ocsiwn gan ddisgynnydd uniongyrchol,” meddai Andrew Aldridge o gwmni Henry Aldridge & Son.

Ychwanegodd bod y fodrwy yn dod gyda llythyr sy’n cadarnhau ei tharddiad yn ogystal ag ardystiad swyddogol o’r diamwnt gan Swyddfa Brofi Birmingham.

Image
 Lady Duff-Gordon, Y Titanic

Roedd y Foneddiges a Syr Cosmo yn deithwyr dosbarth cyntaf ar y Titanic ac fe ddihangodd y cwpl gyda’u hysgrifenyddes ar fad achub rhif 1 wrth i'r llong suddo.

Er bod y cwch achub yn gallu dal 40 o bobl, fe gafodd ei ollwng i’r dŵr gyda dim ond 12 o bobl arno - gan gynnwys saith o griw’r Titantic.

Pan oedd y cwpl yn ddiogel ar yr RMS Carpathia - y llong ddaeth i helpu goroeswyr y drychineb - fe gyflwynodd Syr Cosmo siec o £5 i bob un o’r dynion ar ei fad achub.

Fe arweiniodd hynny at sïon bod y teulu bonedd wedi llwgrwobrwyo’r staff i beidio dychwelyd i nôl teithwyr eraill y Titanic oedd yn nofio am eu bywydau yn y dŵr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.