Gwerth £1.2m o gyffuriau wedi eu darganfod ym Mangor mewn 12 mis
Mae gwerth dros £1 miliwn o gyffuriau wedi'u darganfod gan yr heddlu ym Mangor mewn cyfnod o 12 mis ers lansio ymgyrch yn y ddinas.
Cafodd ymgyrch Adfywio Bangor ei lansio ym mis Mawrth 2025 gyda'r bwriad o fynd i'r afael â throseddau difrifol oedd wedi eu trefnu o flaen llaw ym Mangor a'r cyffiniau, yn hytrach na throseddu ar hap.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r heddlu wedi cynnal 75 o ymgyrchoedd sydd wedi arwain at werth £1.25 miliwn o gyffuriau yn cael eu tynnu oddi ar y strydoedd, gwerth £260,000 o eiddo troseddol wedi ei gadw gan yr awdurdodau a 71 o yrwyr yfed a chyffuriau wedi'u harestio.
Mae gwarantau o dan arweiniad yr heddlu wedi arwain at dros gilogram o heroin a sawl cilogram o gocên yn cael eu darganfod yn ardal y ddinas, gydag arfau hefyd wedi eu meddiannu gan yr heddlu.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod tair fferm ganabis wedi eu chwalu yn ystod cyfnod yr ymgyrch hefyd.
Y gymuned
Dywedodd Prif Arolygydd Gwynedd, Stephen Pawson: “Mae’r gymuned wedi bod wrth wraidd y prosiect hwn erioed, ac rwy’n teimlo’n ddiolchgar am eu cefnogaeth lawn dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid i fynd i’r afael â’r problemau y mae pobl leol wedi dweud wrthym eu bod yn achosi’r pryder mwyaf iddynt.
“Mae dros 800 awr o batrolau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’u targedu wedi digwydd mewn ardaloedd y mae trigolion wedi dweud eu bod yn achosi problemau, ac mae hyn wedi arwain at ostyngiad yn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a adroddwyd i ni.
“Rydym yn parhau i gyfarfod â phartneriaid yn rheolaidd i fynd i’r afael â’r problemau sydd bwysicaf i drigolion.
“Mae ein neges yn parhau’n glir: nid oes croeso i’r rhai sy’n ceisio dod â throsedd i’r ardal a byddant yn cael eu herlid a’u dwyn o flaen y llys.”