Gwent: Heddlu'n chwilio am fechgyn yn eu harddegau wedi ymosodiad honedig ar ddyn 72 oed
Mae Heddlu Gwent wedi apelio eto am wybodaeth, wrth iddyn nhw ymchwilio i ymosodiad honedig ar ddyn 72 oed gan grŵp o fechgyn.
Fe ddigwyddodd hynny rhwng 14.30 a 14.40, ddydd Llun 11 Mai ar stryd gul ger Ffordd yr Eglwys yn Abertridwr, Sir Caerffii.
Cafodd y dyn anafiadau i'w ben ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty am driniaeth.
Cyhoeddodd yr heddlu ddydd Mawrth ei fod e bellach wedi gadael yr ysbyty.
Mae'r heddlu hefyd wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am fechgyn y mae'n nhw awyddus i siarad â nhw.
Mae plismyn eisiau dod o hyd i bedwar bachgen yn eu harddegau.
Mae'r heddlu yn credu bod un o'r rhai sydd o dan amheuaeth yn foel, ac yn gwisgo siaced lliw tywyll â chwfl (hood) neu het.
Mae modd i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600146957.