Eisteddfod yr Urdd: Heledd Wynn Newton yn ennill y Fedal Gyfansoddi
Heledd Wynn Newton o Gaerdydd yw enillydd y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Mae Heledd, sy’n 21 oed, yn gyn-ddisgybl Ysgol Pwll Coch ac Ysgol Gyfun Glantaf, ac ar hyn o bryd yn astudio gradd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.
Roedd y beirniaid, Gareth Glyn ac Owain Llwyd, yn unfrydol mai cylch o ganeuon corawl SATB pedwar symudiad, wedi’u seilio ar awdl o’r Gododdin gan Aneirin, oedd yn haeddu'r fedal eleni.
Dywedodd y beirniaid: “Mae'r cyfansoddwr wedi ymdrwytho yn yr Hengerdd ac yn ymateb iddi gydag ieithwedd gerddorol sy'n gwbl gyfoes gan gynnwys tonyddiaeth estynedig, defnydd o glissandi a sibrwd, a rhannu'r côr i gymaint ag wyth rhan annibynnol.
“Dyma lais proffesiynol, cyfoes a phwysig ar gyfer dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.”
Cafodd y tlws ei roi gan Rheinallt a Rowenna Thomas, Caerdydd, gynt o Lanfairpwll a Phorthaethwy, gyda’r seremoni’n cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.
Daeth 10 ymgais i law yn y gystadleuaeth eleni.
Roedd gofyn i’r cystadleuwyr gyflwyno cyfansoddiad newydd mewn un o’r categorïau canlynol: cylch o ganeuon ar eiriau Cymraeg o’u dewis; rhangan neu gytgan ar eiriau Cymraeg o’u dewis; cyfansoddiad i un neu ddau offeryn; neu gyfansoddiad i ensemble offerynnol.
Mae Heledd hefyd wedi ennill ysgoloriaeth i astudio gradd meistr yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain ym mis Medi ar y delyn, o dan arweiniad ei hathrawes delyn, Catrin Finch.
Mae hi wedi cyrraedd y tri uchaf yn y Fedal Gyfansoddi ddwywaith o’r blaen, yn 2020 yn ystod Eisteddfod T ac yn Eisteddfod Dur a Môr, Parc Margam, 2025.
Dywedodd Heledd iddi ddechrau cyfansoddi yn saith mlwydd oed.
"Fel aelod o Gôr Heol y March o dan arweiniad Eleri Roberts, a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o dan arweiniad Tim Rhys Evans 'dw i wedi cael fy nghyflwyno i weithiau corawl amrywiol iawn eu harddull, sydd wedi cael dylanwad ar fy ngwaith cyfansoddi," meddai.
“Dwi’n aelod brwd o’r gymuned gyfansoddi arbrofol yn Rhydychen ac yn ddiweddar ges i’r cyfle i fod yn rhan o weithdy cyfansoddi gyda Chantorion y BBC.”
Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Iestyn Seiriol o Landdaniel, Ynys Môn, gyda Rhydian Llŷr Williams o Lanrug ger Caernarfon yn drydydd.