'Gwendidau a diffygion allweddol' yng ngwasanaethau mamolaeth Cymru
Mae adroddiad annibynnol newydd wedi codi pryderon am "wendidau a diffygion allweddol" mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.
Er bod yr Asesiad Sicrwydd Cenedlaethol Mamolaeth a Newyddenedigol wedi nodi bod y rhan fwyaf o deuluoedd wedi cael profiadau cadarnhaol, mae'n dweud bod nifer o deuluoedd wedi sôn am brofiadau gwael.
Roedd pryderon am gefnogaeth ôl-enedigol, cyfraniad tadau a methu diwallu anghenion iechyd meddwl.
Cafodd yr asesiad cenedlaethol annibynnol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru ei gyhoeddi ddydd Mercher.
Daw'r asesiad ar ôl i'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, ei gomisiynu yn sgil pryderon am ofal mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.
Y bwriad oedd "meithrin hyder yn ansawdd, diogelwch, tegwch a phrofiad o ofal nawr ac i’r dyfodol", yn ôl adroddiad ar ganfyddiadau'r asesiad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion yr asesiad ac wedi comisiynu asesiad sicrwydd cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth.
'Asesiad cyflym ond meddylgar'
Cafodd yr asesiad ei arwain gan banel arbenigol annibynnol dan gadeiryddiaeth cyn-Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland.
O fis Medi 2025, fe wrandawodd y panel ar brofiadau mwy na 600 o fenywod, rhieni, teuluoedd a staff ar draws Cymru am dros gyfnod o bedwar mis.
Fe wnaeth aelodau'r panel ymweld ag unedau mamolaeth a newyddenedigol ym mhob bwrdd iechyd yn y wlad er mwyn edrych ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Holland bod yr asesiad yn "gyflym ond yn feddylgar", gan "roi babanod a’u teuluoedd yng nghanol ein holl feddwl".
Clywodd y panel gan nifer o fenywod, rhieni a theuluoedd a ddywedodd eu bod yn teimlo bod staff yn gwrando arnynt, eu bod yn cael gofal, ac yn cael eu trin â charedigrwydd a pharch. Roedd staff ar draws Cymru wedi dangos ymroddiad proffesiynol, empathi ac ymrwymiad yn gyson.
Ond fe wnaeth yr asesiad hefyd nodi meysydd allweddol lle mae diogelwch ac ansawdd yn parhau i fod yn fregus.
Fe wnaeth rhai teuluoedd rannu pryderon am gyfathrebu, bod yn rhan o benderfyniadau, a chefnogaeth ôl-enedigol anghyson.
Disgrifiodd nifer fach o deuluoedd a oedd wedi profi colled neu niwed sylweddol sut y gwaethygwyd eu trawma gan ymatebion amddiffynnol.
Roedd aelodau o staff y GIG wedi dweud wrth y panel eu bod yn teimlo o dan straen gormodol oherwydd cymhlethdod cynyddol anghenion gofal, diffyg amser i gynnig y dilyniant a'r gefnogaeth ôl-enedigol y maent am ei darparu.
Fe wnaeth y panel dynnu sylw hefyd at anghysondeb yn y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu trefnu, ac mae'n annog cydgysylltu cenedlaethol cryfach.
Yn ôl yr asesiad mae angen i fyrddau iechyd ddefnyddio cofnodion digidol i fonitro data amser real i alluogi i bryderon diogelwch gael eu nodi’n gynharach, ac mae'n dweud bod angen gweithredu llinell frysbennu genedlaethol i sicrhau ymateb cyson, 24 awr y dydd i bryderon beichiogrwydd brys.
Blaenoriaethau
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru wedi bod yn destun mwy na 500 o argymhellion yn sgil adolygiadau ac ymholiadau.
Yn hytrach nag ychwanegu at y nifer hwn, mae'r panel wedi nodi wyth maes blaenoriaeth y mae'n credu y byddent yn cyflawni'r gwelliannau mwyaf:
- Arweinyddiaeth mamolaeth a newyddenedigol genedlaethol gydgysylltiedig
- Cynnig cyffredinol o ofal o ansawdd uchel
- Sylw brys i faterion diogelwch clinigol hollbwysig: blaenoriaethu a phrysuro'r geni
- Digon o staff a'r mannau cywir i ofalu'n ddiogel
- Cefnogi iechyd meddwl a llesiant
- Cynllunio a chomisiynu gwell ar gyfer gofal newyddenedigol
- Dysgu amserol o broses adolygu digwyddiadau dryloyw sy'n canolbwyntio ar y teulu
- Gwrando, deall a gwella drwy adborth go iawn
Dywedodd yr Athro Holland: "Nid yw’r un ohonom eisiau i’r gwasanaethau hanfodol hyn fod unrhyw beth heblaw’r gorau y gallant fod.
"Mae gan Gymru’r arbenigedd, yr ymrwymiad a’r sylfeini sydd eu hangen i ddarparu gofal rhagorol i bob teulu, ym mhob cymuned. Ond bydd hyn yn gofyn am ewyllys ar y cyd, buddsoddi hirdymor ac atebolrwydd clir.
"Fy ngobaith i yw y byddwn yn gweld consensws trawsbleidiol ar roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar y gwasanaethau hyn, a’r gefnogaeth y mae menywod, rhieni, teuluoedd a babanod yn ei haeddu."
'Bwrw ymlaen â'r argymhellion'
Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion – saith ohonynt yn llawn, ac un yn rhannol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu asesiad sicrwydd cenedlaethol o wasanaethau amenedigol.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Miles: "Mae gan bob mam, bob baban a phob teulu yr hawl i gael gofal diogel, o ansawdd uchel.
"Fe wnes i gomisiynu'r asesiad sicrwydd cenedlaethol i roi archwiliad annibynnol a gwrthrychol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
"Mae'n tynnu sylw at feysydd rhagoriaeth, yn nodi lle mae angen gwella, ac yn atgyfnerthu ymroddiad a phroffesiynoldeb ein gweithlu.
"Rwyf am ddiolch i'r panel am eu gwaith ac rwy'n ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o'r broses asesu. Mae eu safbwyntiau a'u profiadau wedi bod yn hynod werthfawr, gan sicrhau bod lleisiau menywod, teuluoedd, staff a chymunedau ledled Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad terfynol.
"Bydd Llywodraeth Cymru a'r GIG nawr yn bwrw ymlaen â'r argymhellion i sicrhau bod gwelliannau parhaol yn cael eu gwneud i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol."