'Gwelliannau wedi’u gwneud' ar safle ailgylchu yn Llanelli wedi pla pryfaid

Clêr Llanelli

Mae gwelliannau sydd wedi’u gwneud ar safle ailgylchu yn Llanelli wedi galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i dynnu camau gorfodaeth yn ôl, wrth i gamau rheoleiddio a monitro barhau ar y safle.

Cafodd cwmni AMG Resources Limited ei atal dros dro rhag dod â rhai mathau o wastraff ar y safle ar ôl i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar 23 Gorffennaf. 

Roedd hyn yn dilyn ymchwiliad gan Gyngor Sir Caerfyrddin i gynnydd mewn clêr a oedd yn effeithio ar rannau o Lanelli. 

Nododd yr ymchwiliad mai’r safle ailgylchu oedd ffynhonnell y broblem. 

Ers cymryd camau gorfodi, mae Swyddogion Rheoleiddio Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal ymweliadau wythnosol i asesu cydymffurfiaeth â gofynion yr hysbysiad atal, ac i fonitro risgiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r safle. 

Mae arolygiadau diweddar wedi cadarnhau gwelliannau sylweddol i drefniadau ar y safle meddai swyddogion, gan gynnwys mesurau i wella arferion rheoli gwastraff ac amodau'r safle. 

Clêr

Mae hyn wedi mynd i'r afael â'r materion a arweiniodd at gyflwyno'r hysbysiad atal rhannol, a bellach, y gred yw nad yw'r safle’n cyfrannu at y problemau’n ymwneud â chlêr yn yr ardal. 

Dywedodd Ed Davies, Arweinydd Tîm De Orllewin Cymru ar gyfer Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff yn CNC: “Mae diogelu pobl a'r amgylchedd yn flaenoriaeth i ni, ac rydyn ni’n cymryd camau rheoleiddio pan fo angen. 

“Ers i'r hysbysiad atal gael ei gyhoeddi, mae'r gweithredwr wedi gwneud gwaith helaeth i wella arferion rheoli gwastraff a chynnal a chadw’r safle.

“Er bod hyn yn gam cadarnhaol, mae ein gweithgarwch rheoleiddio yn parhau. Mae hysbysiad gorfodi yn parhau i fod ar waith, sy’n ei gwneud yn ofynnol i wastraff gael ei storio o fewn ffiniau trwyddedig y safle, a byddwn yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth yn agos a chymryd camau pellach pe bai angen."

Ychwanegodd Mr Davies: “Mae hefyd yn ofynnol i’r gweithredwr gryfhau ei drefniadau rheoli plâu, adolygu gweithrediadau’r safle a rhoi unrhyw fesurau pellach sydd eu hangen ar waith er mwyn lleihau’r risg y bydd problemau tebyg yn codi yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i asesu effeithiolrwydd y mesurau hyn drwy gyfrwng gweithgarwch arolygu a rheoleiddio parhaus.

“Rydyn ni’n cydnabod yr effaith y mae’r cynnydd mewn clêr wedi'i chael ar drigolion a busnesau lleol, a hoffem ddiolch i'r gymuned am ei hamynedd wrth i ni gynnal ein hymchwiliad a rhoi camau rheoleiddio ar waith.” 

Llun: CNC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.