Gweithwyr tân ac achub o Gymru yn cynorthwyo ar ôl daeargryn Venezuela
Mae tîm o wasanaethau tân ac achub Cymru wedi eu hanfon i Venezuela i gynorthwyo wedi’r daeargryn yno.
Tarodd dau ddaeargryn, o faint 7.2 a 7.5, Venezuela ar 24 Mehefin.
Mae'r awdurdodau wedi cyfrif o leiaf 2,595 o bobl wedi'u lladd gan y daeargryn hyd yma, ac mae dros 10,000 wedi'u hanafu neu ar goll.
Mae personél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru ymysg y rheini sydd wedi ymuno â 68 o aelodau o 15 o Wasanaethau Tân ac Achub ledled y DU i helpu.
Mae’r garfan hefyd yn cynnwys chwech o gŵn chwilio sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynorthwyo â’r gwaith o ganfod pobl yn y dinistr.
Ar hyn o bryd mae'r tîm yn gweithredu yn rhanbarth arfordirol Caraballeda, tua 10 milltir i'r gogledd o'r brifddinas, Caracas.
Ers cyrraedd, maen nhw wedi bod yn chwilio adeiladau sydd wedi cwympo, gan ddefnyddio timau chwilio cŵn ac offer arbenigol i ddod o hyd i bobl.
Dywedodd Prif Swyddog Tân GTACGC, Craig Flannery: "Rydym yn meddwl am bawb sydd wedi teimlo effaith y daeargrynfeydd dinistriol hyn yn Venezuela, ac yn cydymdeimlo â’r teuluoedd a'r cymunedau sy'n gorfod wynebu canlyniadau'r drasiedi hon.”
‘Gwarthus’
Yn y cyfamser mae arlywydd dros dro Venezuela, Delcy Rodriguez, wedi amddiffyn ymateb ei llywodraeth i’r daeargrynfeydd yn chwyrn.
Mae hi wedi gwrthod beirniadaeth bod yr awdurdodau wedi ymateb yn rhy araf, ac awgrymiadau bod nifer y rhai fu farw yn llawer uwch na’r hyn mae’r llywodraeth wedi ei gydnabod.
Mae rhai o drigolion y dalaith a gafodd ei tharo waethaf, La Guaira, wedi cwyno bod absenoldeb ymgyrch chwilio ac achub ddifrifol gan y llywodraeth ar y dechrau wedi eu gadael ar eu pennau eu hunain i chwilio am gymdogion ac anwyliaid.
Mae achubwyr wedi cwyno am brinder offer arbenigol yn y wlad, tra bod arbenigwyr wedi rhybuddio bod adeiladau wedi chwalu yn rhy hawdd oherwydd eu bod o ansawdd isel.
Fe wnaeth yr arweinydd dros dro, Ms Rodriguez, wrthod derbyn y feirniadaeth mewn cynhadledd i newyddiadurwyr tramor yn y brifddinas, Caracas, ddydd Iau.
“Wnaethon ni ddim aros un diwrnod, dau ddiwrnod na thri diwrnod,” meddai.
“Fe wnaethon ni weithredu ar unwaith.”
Cyhuddodd y cyfryngau o ledaenu camwybodaeth, gan ddweud: “Mae ceisio dod a gwleidyddiaeth i mewn i drasiedi ddyngarol fel hon yn warthus.”
