Dyn ifanc yn gwadu iddo drywanu bachgen 17 oed ar Ynys y Barri

S4C

Mae dyn ifanc wedi gwadu iddo drywanu bachgen 17 oed tra ar daith i Ynys y Barri dros benwythnos gŵyl y banc ym mis Mai.

Fe blediodd Idris Ahmed, 18 oed, yn ddieuog i achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, achosi niwed corfforol difrifol, a bod â chyllell yn ei feddiant ar y traeth.

Yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, fe wnaeth y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke bennu dyddiad arfaethedig o 2 Tachwedd ar gyfer achos llys.

Mae disgwyl iddo bara 10 diwrnod.

Wrth ymddangos yn y llys mewn tracwisg carchar lwyd, fe siaradodd Ahmed, o Gaerdydd, i gyflwyno ei ble yn unig, ac fe nodiodd ei ben i gadarnhau ei enw a’i ddyddiad geni.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd y Barnwr Lloyd-Clarke: “Mae dyddiad eich achos wedi ei bennu ar gyfer 2 Tachwedd eleni.

“Byddwch yn cael eich cadw yn y ddalfa tan y dyddiad hwnnw.”

Dywedodd Peter Donnison, wrth amddiffyn, fod y dyn ifanc yn gwadu iddo drywanu, neu annog unrhyw un arall i drywanu, y dioddefwr honedig.

Roedd Heddlu De Cymru wedi dweud yn flaenorol fod bachgen 17 oed wedi dioddef anaf difrifol yn y digwyddiad honedig ar Ynys y Barri ar 25 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.