100 diwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru: 'Gobeithiol' am ragor o bwerau wedi'u datganoli

Dafydd Trystan x Senedd

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn obeithiol y bydd rhagor o bwerau’n cael eu datganoli ar ôl trafodaethau cychwynnol gyda Phrif Weinidog y DU.

Bydd dydd Mercher yn nodi 100 diwrnod union ers cyfarfod cyntaf Cabinet Llywodraeth Plaid Cymru.

Mae'r llywodraeth wedi nodi'r achlysur drwy gyhoeddi dashfwrdd digidol a fydd medden nhw yn caniatáu i bobl olrhain cynnydd yn erbyn eu blaenoriaethau am y tro cyntaf.

Dywedodd y llywodraeth bod eu "cyfeiriad yn glir" ond mae rhai o'r gwrthbleidiau wedi dweud bod y 100 diwrnod cyntaf yn "siomedig".

Dywedodd Dafydd Trystan Davies, y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, fod y llywodraeth wedi gwneud "dechrau cryf" ar gyflawni ei huchelgeisiau ac "eisoes wedi dechrau gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl".

Ychwanegodd bod trafodaethau gydag Andy Burnham dros yr wythnosau diwethaf am ragor o rymoedd hefyd wedi bod yn rhai “positif”.

"Un o’r blaenoriaethau allweddol rydyn ni wedi’u nodi fel llywodraeth yw sefyll dros Gymru ac roedd y cyfarfod cychwynnol rhwng y Prif Weinidog a Phrif Weinidog y DU yn gadarnhaol ac yn adeiladol," meddai Dafydd Trystan Davies.

Ychwanegodd Mr Davies ei fod hefyd wedi siarad â Phrif Weinidog y DU, Andy Burnham, ddydd Gwener diwethaf.

Dywedodd ei fod yn gobeithio "gwneud cynnydd drwy weithio’n adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar bethau fel cyllid rheilffyrdd, ar Ystâd y Goron, ac ar ddatganoli plismona".

Ym mis Gorffennaf, collodd Llywodraeth Cymru bleidlais dyngedfennol ar ei chynlluniau gwariant.

Roedd Llafur a Phlaid Cymru wedi anghytuno ar gynnwys y gyllideb atodol, sef y gwariant ychwanegol roedd y llywodraeth yn awyddus i’w wneud er mwyn bwrw ymlaen â’i blaenoriaethau.

Heb fwyafrif yn y Senedd, dyma oedd yr her fwyaf i'r llywodraeth newydd ers dod i rym ym mis Mai.

Ychwanegodd Mr Davies: "Rwy'n disgwyl i ni fel llywodraeth i weithio gyda phleidiau eraill a byddwn i hefyd yn disgwyl i bleidiau eraill weithio yn adeiladol gyda ni ar welliannau i fywydau pobl Cymru."

Wrth drafod diwedd 100 diwrnod cyntaf Plaid Cymru mewn grym, dywedodd mai "dim ond y dechrau yw hyn". 

"Rydym wedi bod yn gosod y sylfeini ar gyfer newid hirdymor, ac wedi dechrau gwireddu ein haddewid i wella bywydau pobl," meddai.

“Ein tasg ni nawr yw parhau i adeiladu economi gryfach, gwasanaethau cyhoeddus cryfach, a Chymru decach lle mae pawb yn cael y cyfle i lwyddo – a bydd y gwaith hwnnw’n parhau yn ddi-oed.”

'Siomedig'

Dywedodd Dan Thomas AS, arweinydd Reform UK yng Nghymru: “Fe wnaeth pobl Cymru bleidleisio dros newid, ond 100 diwrnod yn ddiweddarach, yr unig beth rydym wedi ei weld gan Blaid Cymru yw’r un hen fethiant.

“Mae rhestrau aros y GIG yn cynyddu, mae ein ffyrdd yn dal yn llawn tagfeydd ac mae teuluoedd yn dal i gael trafferth gyda chostau byw.

“Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi treulio ei 100 diwrnod cyntaf yn cyhoeddi adolygiadau, pwyllgorau a chynlluniau yn hytrach na chyflawni newid ystyrlon.”

Dywedodd arweinydd Llafur Cymru Ken Skates: "Wrth i Lywodraeth Plaid Cymru nodi 100 niwrnod, cyrff newydd ac adolygiadau yw eu cyflawniad mwyaf.

"I’r blaid a gafodd ddegawdau i graffu ar eu rhagflaenydd a’u cwestiynu, gan fanteisio ar bob cyfle i dynnu sylw at sut y gallent wneud y gwaith o arwain Cymru’n well, mae realiti hanner tymor cyntaf Plaid Cymru yn Senedd Cymru wedi gadael llawer yn teimlo’n siomedig."

Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar gyhuddo Plaid Cymru o "ddiffyg brys gwirioneddol" yn eu 100 niwrnod cyntaf mewn llywodraeth. 

"Mae 100 niwrnod cyntaf Plaid wedi bod yn gyfres siomedig o gyfleoedd wedi eu colli i droi'r dudalen ar 27 mlynedd o lywodraethiant Llafur yng Nghymru," meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.