Gweinidog Llywodraeth Cymru yn datgelu bod ganddo ran yn Star Wars: Gobaith Newydd

Gweinidog Llywodraeth Cymru yn datgelu bod ganddo ran yn Star Wars: Gobaith Newydd

Mae Adam Price AS wedi datgelu bod ganddo ran fach yn fersiwn Gymraeg y ffilm  Star Wars: Gobaith Newydd, fydd yn cael ei darlledu ar S4C ddydd Nadolig.

Fe gafodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni gyfle i recordio llinell ar gyfer Star Wars yn ystod ymweliad gweinidogol â stiwdios Bang Post Production yng Nghaerdydd.

Wrth siarad â Newyddion S4C yn nangosiad cyntaf y fersiwn Gymraeg yng Nghaerdydd nos Iau, dywedodd: "Mae gyda fi un llinell fach yn y ffilm."

"Mae fy mhlant i'n gyffrous iawn am hynny. Wel, dwi'n eitha cyffrous amdano fe hefyd."

Doedd y gwleidydd ddim am ddatgelu union fanylion ei gymeriad, ond fe awgrymodd nad oedd ar ochr y gwrthryfelwyr yn y ffilm.

Image
Star Wars Gobaith Newydd

Gan gyfeirio at orfod chwarae cymeriad ar yr ochr arall, dywedodd fod hynny'n "groes i'r graen", ond ychwanegodd fod rhaid actio.

Wrth gael ei holi am ei sgiliau actio, dywedodd fod yna debygrwydd rhwng byd gwleidyddiaeth a drama, gan gyfeirio at yr elfen theatrig o gyflwyno araith.

"Gewch chi arfarnu wedyn," meddai.

Roedd Mr Price hefyd yn cofio gwylio'r ffilm wreiddiol am y tro cyntaf yn Rhydaman, gan ddweud y byddai ei blant yn cael profiad gwahanol iawn wrth ei gwylio yn Gymraeg ddydd Nadolig.

'Dewch â'r camerâu'

Dywedodd Mr Price ei fod yn gobeithio y byddai'r ffilm Gymraeg yn helpu i feithrin cysylltiadau rhwng Cymru a chwmnïau rhyngwladol fel Disney a Lucasfilm, gan agor y drws i ragor o gynyrchiadau gael eu ffilmio yng Nghymru yn y dyfodol.

"Yn sicr, dyna un o'r rhesymau, fi'n credu, yw creu y cysylltiadau yna," meddai.

"A chreu y cysylltiadau gyda chwmnïau fel Lucasfilm a Disney, a dangos iddyn nhw y talent sydd yma yng Nghymru.

"Bydden nhw'n gweld a bydden nhw'n clywed y lleisiau yna o'r talent Cymreig yn y ffilm.

"A neges ni i Lucasfilm a Disney yw, tro nesa, dewch â'r camerâu gyda chi hefyd."

Image
Bang Post Production
Cafodd llinellau sawl cymeriad gan gynnwys llinellau Osian Morgan sy'n chwarae Luke Skywalker eu recordio yn Bang Post Production yng Nghaerdydd

Mae Bang Post Production, lle cafodd Mr Price gyfle i recordio ei ran, yn gwmni ôl-gynhyrchu sain sydd wedi gweithio ar gynyrchiadau gan gynnwys Doctor Who a Sherlock.

Bydd Star Wars: Gobaith Newydd ar S4C ddydd Nadolig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.