Y gwasanaethau brys wedi ymateb i dân mewn pentref ym Môn
Mae criwiau tân wedi gadael safle digwyddiad ym Mynydd Mechell ger Amlwch ar Ynys Môn.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod y tân wedi’i ddwyn dan reolaeth cyn i’r criwiau adael y safle am tua 01:30 fore Gwener.
Roedd y gwasanaethau brys wedi galw ar bobl i gadw draw o’r pentref yn hwyr nos Iau wrth i’r criwiau ddelio â’r digwyddiad.
Cyhoeddodd y gwasanaeth tân neges ar y cyfryngau cymdeithasol ychydig cyn hanner nos yn galw ar bobl i osgoi ardal Mynydd Mechell.
“Cadwch draw o’r ardal tra byddwn yn delio gyda’r digwyddiad os gwelwch yn dda,” meddai llefarydd ar y pryd.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi galw ar bobl i osgoi’r ardal tan hysbysiad pellach.
Nid oes rhagor o wybodaeth am union natur y digwyddiad ar hyn o bryd.