Y gwasanaethau brys wedi ymateb i dân ar long yng Nghasnewydd
Mae criwiau tân o bob cwr o Dde Cymru wedi bod yn ymateb i ddigwyddiad yn ymwneud â thân ar fwrdd llong yn Nociau Casnewydd.
Cyrhaeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru leoliad y tân ar fwrdd y llong Nord Houston am 05:38 fore dydd Sul.
Roedd y llong wedi'i docio yn y porthladd ac yn cludo tua 1,000 tunnell o fetel sgrap.
Mae nifer sylweddol o adnoddau wedi'u defnyddio meddai llefarydd o'r Gwasanaeth Tân, gan gynnwys pum peiriant pwmpio, dau blatfform awyr hydrolig, ac amrywiaeth o unedau arbenigol.
Ar hyn o bryd mae'r tân wedi'i amgylchynu, ac mae "tactegau'n cael eu hadolygu'n barhaus" meddai 'r llefarydd.
Nid oes unrhyw risg uniongyrchol i fywyd nac i eiddo cyfagos.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys Associated British Ports, awdurdodau'r harbwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu a'r awdurdod lleol, i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac i asesu a lliniaru unrhyw effaith amgylcheddol posib.
Cafodd y cyhoedd eu cynghori i gadw draw o'r ardal.
Dywedodd y gwasanaeth tân yn hwyrach brynhawn dydd Sul bod y tân bellach dan reolaeth.
Mewn datganiad dywedodd y gwasanaeth fe fydd criwiau’n aros ar y safle am y 12-24 awr nesaf i barhau i fonitro’r sefyllfa ac i sicrhau nad oes unrhyw ail-danio.
Dywedodd Chris Hadfield, Pennaeth Rheoli Risg Weithredol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae ein criwiau wedi gweithio’n eithriadol o galed drwy gydol y dydd i ddod â’r digwyddiad cymhleth hwn dan reolaeth.
"Er bod y sefyllfa bellach yn sefydlog, bydd presenoldeb y gwasanaeth tân yn parhau yn Nociau Casnewydd i fonitro amodau a sicrhau nad yw’r tân yn ail-danio.
“Rydym yn ddiolchgar am y cydweithrediad rhwng ein hasiantaethau partner a’r cyhoedd yn ystod y digwyddiad hwn.
"Ar hyn o bryd, nid yw achos y tân yn hysbys. Bydd unrhyw ymchwiliadau pellach yn digwydd yn ôl yr angen.”